
{"id":3838,"date":"2021-02-23T20:13:10","date_gmt":"2021-02-23T20:13:10","guid":{"rendered":"https:\/\/run4wales.org\/canllaw-hyfforddi-yn-y-gaeaf\/"},"modified":"2021-02-23T20:13:20","modified_gmt":"2021-02-23T20:13:20","slug":"canllaw-hyfforddi-yn-y-gaeaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/canllaw-hyfforddi-yn-y-gaeaf\/","title":{"rendered":"Canllaw Hyfforddi yn y Gaeaf"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019n ddoeth meddwl ymlaen llaw o ran y gaeaf oherwydd ni fydd yr amserlen yn syml. Bydd rhai nosweithiau lle na fyddwch yn gallu gadael y t\u0177 \u2013 ac mae salwch ac amodau peryglus yn broblem yn ystod y gaeaf hefyd. Isod rydyn ni wedi amlinellu rhai ffyrdd o oresgyn misoedd anoddaf y flwyddyn o ran dygnwch.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Ymuno \u00e2 champfa<\/h4>\n\n<p>Pan ddaw\u2019r oerfel, mae\u2019r gampfa\u2019n fwy a mwy apelgar. Er na fydd peiriant rhedeg byth yn gallu efelychu llanw a thrai rhedeg ar y ffordd, mae\u2019n ffordd o gynnal eich lefelau ffitrwydd. Nid yw\u2019n berffaith, ond mae\u2019n ddigon da!<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Traws-hyfforddi<\/h4>\n\n<p>Nid rhedeg yw\u2019r unig agwedd ar ffitrwydd marathon, sy\u2019n fiwsig i glustiau rhedwyr nad yw mynd allan yn y tywyllwch yn apelio atynt o gwbl. Os yw amodau anodd yn eich atal rhag rhedeg, ewch i nofio neu ddod o hyd i feic ymarfer i orffen y sesiwn ymarfer.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Addasu<\/h4>\n\n<p>Os yw hi\u2019n dywydd gaeafol go iawn rhyw noson, newidiwch eich diwrnod gorffwys neu newid dwysedd eich sesiwn. Ewch i redeg am lai o amser ond yn fwy dwys os oes tywydd mawr ar y gorwel. Y peth pwysig yw cadw\u2019r momentwm.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Buddsoddi yn y dillad cywir<\/h4>\n\n<p>Mae rhedeg pan ydych chi\u2019n oer yn ddrwg i\u2019ch corff a\u2019r peth olaf rydych chi am ei wneud yw datblygu salwch a pheidio \u00e2 gallu gwneud unrhyw beth. Mae haenau yn hanfodol ond meddyliwch am siacedi gwrth-wynt, hetiau, menyg a sanau rhedeg.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Rhannu\u2019r rhedeg<\/h4>\n\n<p>Yn groes i beth mae llawer yn ei gredu, nid oes rhaid cynyddu eich ffitrwydd mewn un rhediad hir. Er enghraifft, gallwch chi rannu 10 milltir dros y diwrnod. Gwnewch 5 yn y bore cyn gwaith, ac ar \u00f4l i\u2019r glaw basio, 5 arall yn nes ymlaen. Byddwch chi felly\u2019n dal yn gwneud y milltiroedd marathon hollbwysig hynny.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Meddyliwch am yr hyn sydd i ddod<\/h4>\n\n<p>Efallai ei bod hi\u2019n anodd dychmygu nawr, ond mae\u2019r gwanwyn ar ddod. Meddyliwch am eich nod, fel llinell derfyn ras, a dychmygu\u2019r teimlad o ryddhad, cyflawniad a llawenydd pan fyddwch yn cael eich medal.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Bod yn synhwyrol<\/h4>\n\n<p>Os ydych chi mewn unrhyw amheuaeth, peidiwch \u00e2 rhedeg. Rydyn ni\u2019n gwybod bod salwch yn fwy cyffredin, bod amodau\u2019n anodd ac weithiau does dim awydd rhedeg arnoch yn ystod y gaeaf. Gwrandewch ar eich greddf a pheidio \u00e2\u2019i gorwneud hi.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Croesawu\u2019r her<\/h4>\n\n<p>Dydy rasys marathon yn y gwanwyn ddim i fod yn hawdd! Mae\u2019r misoedd anodd o hyfforddi yn datblygu cymeriad ac, os ydych chi am iddyn nhw fod, yn llawn boddhad! Ymunwch \u00e2 gr\u0175p rhedeg cymdeithasol neu redeg gyda ffrindiau, a bydd y profiad yn fwy dymunol o lawer.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-group\"><div class=\"wp-block-group__inner-container\">\n<h4>Mae cofrestru ar gyfer ras yn ffordd wych o gymell eich hun yn ystod misoedd oer a thywyll y gaeaf. Mae R4W yn cynnig nifer o ddigwyddiadau byw drwy gydol y tymor gornestau, a heriau rhithiol drwy gydol y flwyddyn.<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/run4wales.org\/events\/\">Gweld Digwyddiadau R4W<\/a><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-button is-style-fill\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/run4wales.org\/training\/train-prepare\/\">Yn \u00f4l i Hyfforddiant<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n ddoeth meddwl ymlaen llaw o ran y gaeaf oherwydd ni fydd yr amserlen yn syml. Bydd rhai nosweithiau lle na fyddwch yn gallu gadael y t\u0177 \u2013 ac mae salwch ac amodau peryglus yn broblem yn ystod y gaeaf hefyd. Isod rydyn ni wedi amlinellu rhai ffyrdd o oresgyn misoedd anoddaf y flwyddyn o<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":3304,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3838"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3838"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3838\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3839,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3838\/revisions\/3839"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3304"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3838"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3838"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3838"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}