
{"id":3842,"date":"2021-02-23T20:13:11","date_gmt":"2021-02-23T20:13:11","guid":{"rendered":"https:\/\/run4wales.org\/5-ffordd-o-amrywio-eich-hyfforddiant\/"},"modified":"2021-02-23T20:13:20","modified_gmt":"2021-02-23T20:13:20","slug":"5-ffordd-o-amrywio-eich-hyfforddiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/5-ffordd-o-amrywio-eich-hyfforddiant\/","title":{"rendered":"5 ffordd o amrywio eich hyfforddiant"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae digon o filltiroedd yn rhan o hyfforddiant ar gyfer ras, dim dwywaith am hynny. Bob dydd bron, rydych chi ar y ffordd yn gweithio\u2019n raddol tuag at bellter eich ras, ond mae un peth pwysig mae llawer o redwyr yn ei anghofio. Ffitrwydd yw hanfod y peth, nid dim ond milltiroedd. I\u2019ch helpu chi i osgoi diflasu ar filltiroedd, rydyn ni wedi amlinellu ambell ffordd arall o gadw\u2019n heini a bod yn feddyliol fodlon.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4><strong>Hyfforddiant Fartlek<\/strong><\/h4>\n\n<p>Ystyr Fartlek yn llythrennol yw \u2018chwarae cyflym\u2019 yn Swedeg. Yn syml iawn, mae\u2019n gymysgedd o sbrintio ac arafu\u2019r tempo drwy loncian, ond gall eich helpu\u2019n sylweddol i gyrraedd eich nod o ran ffitrwydd marathon. Os ydych chi\u2019n ymdrechu i redeg ar gyflymder cyson wrth redeg o ddydd i ddydd, mae Fartlek yn eich helpu i amrywio pethau rhywfaint. Sbrintiwch am 100m, loncian am 100m, rhedeg ar gyflymder \u2018tempo\u2019 am 50m, ac yna sbrintio am 20m arall. Mae\u2019r cliw yn yr enw, \u2018chwaraewch\u2019 o gwmpas wrth redeg a bydd eich cyflymder, eich cryfder a\u2019ch dygnwch ar eu hennill.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4><strong>Yoga neu Pilates<\/strong><\/h4>\n\n<p>Meddyliwch am ddosbarthiadau Yoga neu Pilates fel rhywbeth i\u2019w wneud pan nad ydych chi\u2019n teimlo fel rhedeg. Fydd dosbarth neu ddau ddim yn eich paratoi ar gyfer marathon dros nos, ond byddan nhw\u2019n ddefnyddiol dros eich misoedd hyfforddi. Pam? Oherwydd mae Yoga a Pilates yn gweithio cyhyrau nad oeddech chi\u2019n gwybod eu bod gennych chi! A pham mae hynny\u2019n bwysig? Oherwydd ni fydd y cyhyrau hynny\u2019n wan ac ni fyddwch yn cael unrhyw anafiadau trafferthus oherwydd mai \u2018dim ond rhedeg\u2019 ydych chi wedi\u2019i wneud.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4><strong>Cystadlu<\/strong><\/h4>\n\n<p>Does dim yn gallu eich paratoi ar gyfer cyffro diwrnod ras! Mae llawer o redwyr yn cael eu llethu gan y cyflymder cychwynnol a\u2019r adrenalin sy\u2019n dilyn s\u0175n gwn y llinell gychwyn. Y ffordd orau o osgoi hynny yw magu profiad. Mae Run 4 Wales yn darparu llu o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfle i redwyr brofi eu ffitrwydd dan amodau cystadleuol \u2013 a\u2019r gwir plaen ydy, mae\u2019n fwy cyffrous o lawer pan ydych chi\u2019n ei wneud go iawn!<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4><strong>Archwilio<\/strong><\/h4>\n\n<p>Rhedeg ffyrdd yw eich bara menyn o ran yr hyfforddiant, ond mae mwy i redeg na dim ond milltiroedd. Dylech chi fwynhau\u2019r profiad cyfan a dyna pam ein bod yn annog ein rhedwyr i amrywio eu hyfforddiant drwy redeg treialon, llwybrau newydd, a gosod nodau. Peidiwch \u00e2 gwneud yr un rhediad oni bai fod gennych chi nod gwahanol. Os ydych chi\u2019n dymuno cael her wahanol, ewch oddi ar y ffyrdd ac i barc neu gae cyfagos. Gallech chi redeg eich llwybr arferol am yn \u00f4l. Gwnewch beth bynnag mae\u2019n ei gymryd ei osgoi diflasu ar y milltiroedd.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4><strong>Cynyddu\u2019r dwysedd<\/strong><\/h4>\n\n<p>Fyddwch chi ddim yn llawn mynd bob dydd, ac mae hynny\u2019n iawn \u2013 ond bydd cynyddu\u2019r dwysedd pan ydych chi\u2019n teimlo\u2019n gryf yn eich helpu yn nes ymlaen. Mae hyfforddiant seibiannol dwysedd uchel yn gweithio ar eich ffitrwydd a\u2019ch cryfder, ac mae\u2019n ffordd wych o amrywio\u2019r drefn hyfforddi. Mae digon o enghreifftiau a fideos o\u2019r sesiynau ymarfer hyn ar y rhyngrwyd felly gwnewch yn si\u0175r eich bod yn dod o hyd i\u2019r rhai sy\u2019n addas i chi. Canolbwyntiwch ar eich cyhyrau rhedeg, eu defnyddio dim ond i ategu eich cynlluniau hyfforddi, a byddwch yn teimlo\u2019n wych erbyn diwrnod y ras!<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-buttons\">\n<div class=\"wp-block-button is-style-fill\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/run4wales.org\/training\/train-prepare\/\">Yn \u00f4l i Hyfforddiant<\/a><\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae digon o filltiroedd yn rhan o hyfforddiant ar gyfer ras, dim dwywaith am hynny. Bob dydd bron, rydych chi ar y ffordd yn gweithio\u2019n raddol tuag at bellter eich ras, ond mae un peth pwysig mae llawer o redwyr yn ei anghofio. Ffitrwydd yw hanfod y peth, nid dim ond milltiroedd. I\u2019ch helpu chi<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":3314,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3842"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3842"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3842\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3843,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3842\/revisions\/3843"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3314"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3842"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3842"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3842"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}