
{"id":3844,"date":"2021-02-23T20:13:11","date_gmt":"2021-02-23T20:13:11","guid":{"rendered":"https:\/\/run4wales.org\/pam-maer-nadolig-yn-gyfnod-gwych-i-ffanatics-ffitrwydd\/"},"modified":"2021-02-23T20:13:20","modified_gmt":"2021-02-23T20:13:20","slug":"pam-maer-nadolig-yn-gyfnod-gwych-i-ffanatics-ffitrwydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/pam-maer-nadolig-yn-gyfnod-gwych-i-ffanatics-ffitrwydd\/","title":{"rendered":"Pam mae\u2019r Nadolig yn gyfnod gwych i ffanatics ffitrwydd"},"content":{"rendered":"\n<p>Pan ydyn ni\u2019n meddwl am y Nadolig, nid ffitrwydd, rhedeg pellteroedd hir a mynd i\u2019r gampfa yw\u2019r pethau cyntaf sy\u2019n dod i\u2019r meddwl \u2013 ond rydyn ni\u2019n clywed mwy a mwy am bobl sydd wrth eu bodd yn mynd allan ar y ffyrdd a\u2019r llwybrau adeg y Nadolig!<\/p>\n\n<p>Felly pam nad yw gwyliau\u2019r Nadolig yn seibiant llwyr? Mae\u2019r ateb yn un syml. Gall y cyfnod cyn y Nadolig fod yn llawn straen o ganlyniad i\u2019r siopa, y prysurdeb, y dadleuon dros gemau bwrdd a, debyg iawn, pen mawr yn y bore! Rhedeg yw\u2019r iach\u00e2d gorau bob amser bron. Fel y maen nhw\u2019n ei ddweud, wrth ei flas mae profi pwdin \u2013 po fwyaf o amser sy\u2019n cael ei dreulio yn gwneud ymarfer corff, y gorau byddwch yn teimlo\u2019n feddyliol.<\/p>\n\n<p>Dyma pam.<\/p>\n\n<p>Yn gyntaf, mae rhedeg, yn wahanol i unrhyw beth arall, yn rhoi cyfnod hir i chi ar gyfer\u00a0<strong>meddwlgarwch<\/strong>. Yn hytrach na phoeni am ba anrhegion rydych chi\u2019n ei eu prynu ac i bwy, mae gennych chi amser i feddwl am y presennol. Mae gwneud hynny\u2019n caniat\u00e1u i ni ganolbwyntio ar ni ein hunain a does dim llawer o amser i\u2019r meddwl ddechrau meddwl am straen y Nadolig eto.<\/p>\n\n<p>Cofiwch fod gwyliau\u2019r Nadolig yn dal yn amser i ymlacio \u2013 ond dydy llawer o bobl dal ddim yn gwybod beth mae\u00a0<strong>ymlacio<\/strong>\u00a0yn ei olygu iddyn nhw. Rydyn ni\u2019n gweld bod nifer o redwyr brwd yn cael trafferth eistedd o gwmpas yn gwneud dim byd, ac mae hynny oherwydd mae\u2019r hyn sy\u2019n eu hymlacio yw\u2019r teimlad o fod ar eu traed yn gwneud rhywbeth. Rhowch gynnig arni a byddwch yn gwybod naill ffordd neu\u2019r llall!<\/p>\n\n<p>Yn gyffredinol mae mis Rhagfyr yn amser i fyfyrio ar y flwyddyn \u2013 ac mae digon o reswm dros ddathlu adeg y Nadolig. Efallai mai dyma\u2019r tro cyntaf i\u2019ch teulu ddod ynghyd am amser maith, neu eich bod wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn y gwaith. Mae\u2019r Nadolig yn dueddol o olygu llawer o nosweithiau hwyr. A pham y bydd rhedeg yn helpu?\u00a0<strong>Cwsg<\/strong>. Mae wedi\u2019i brofi bod hyd yn oed mynd i redeg am yr amser byrraf posib, dim ots beth yw\u2019r cyflymder, yn gwella ansawdd eich cwsg. Mae hynny\u2019n hynod o werthfawr adeg y Nadolig ac rydych chi\u2019n sicr o deimlo\u2019n well yn sgil hynny.<\/p>\n\n<p>I\u2019r rhai sy\u2019n gorfod meddwl am goginio cinio Nadolig, bydd rhedeg yn helpu i dawelu eich meddwl. Mae wedi\u2019i brofi\u2019n wyddonol bod mynd allan i\u2019r amgylchedd naturiol yn helpu\u2019n sylweddol i\u00a0<strong>leddfu eich pryderon<\/strong>\u00a0ac i\u2019ch rhoi ar y trywydd iawn. Rydyn ni wedi s\u00f4n am feddwlgarwch ac mae hyn yn debyg iawn.<\/p>\n\n<p>I gloi, mae\u2019r Nadolig yn dueddol o ymyrryd \u00e2\u2019n\u00a0<strong>trefn arferol<\/strong>\u00a0\u2013 rydyn ni\u2019n treulio mwy o amser gyda\u2019r teulu, yn cynllunio achlysuron mawr, mae part\u00efon Nadolig, bwyta ac yfed di-baid, ac mae\u2019r drefn 9-5 wedi hen fynd. Ond beth am redeg? Rydych chi wedi hyfforddi drwy\u2019r flwyddyn, pam stopio nawr? Mae syniad bod pob cynllun arferol yn diflannu adeg y Nadolig \u2013 ond rydyn ni\u2019n anghytuno. Cadwch eich arferion rhedeg yn gyson, hyd yn oed os mai dyna\u2019r unig beth. Does dim rhaid iddo fod yn ddwys, byddwch yn teimlo\u2019n wych yn feddyliol beth bynnag.<\/p>\n\n<p>Efallai eich bod chi wedi sylwi \u2013 nid dim ond i\u2019r Nadolig mae hyn yn wir. Mae\u2019r rhain yn hanfodion cyfarwydd. Mae rhedeg yn helpu eich iechyd meddwl a bydd llawer ohonoch chi\u2019n gwybod hynny\u2019n barod. Y Nadolig hwn, ewch i redeg a mwynhau\u2019r amser sydd gennych chi \u2013 byddwch yn teimlo\u2019n wych!<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-buttons\">\n<div class=\"wp-block-button is-style-fill\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/run4wales.org\/training\/train-prepare\/\">Yn \u00f4l i Hyfforddiant<\/a><\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pan ydyn ni\u2019n meddwl am y Nadolig, nid ffitrwydd, rhedeg pellteroedd hir a mynd i\u2019r gampfa yw\u2019r pethau cyntaf sy\u2019n dod i\u2019r meddwl \u2013 ond rydyn ni\u2019n clywed mwy a mwy am bobl sydd wrth eu bodd yn mynd allan ar y ffyrdd a\u2019r llwybrau adeg y Nadolig! Felly pam nad yw gwyliau\u2019r Nadolig yn<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":3321,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3844"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3844"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3844\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3845,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3844\/revisions\/3845"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3321"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3844"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3844"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3844"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}