
{"id":3850,"date":"2021-02-23T20:13:13","date_gmt":"2021-02-23T20:13:13","guid":{"rendered":"https:\/\/run4wales.org\/7-nodwedd-rhedwr-marathon-pa-rai-syn-gweddu-i-chi\/"},"modified":"2021-02-23T20:13:20","modified_gmt":"2021-02-23T20:13:20","slug":"7-nodwedd-rhedwr-marathon-pa-rai-syn-gweddu-i-chi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/7-nodwedd-rhedwr-marathon-pa-rai-syn-gweddu-i-chi\/","title":{"rendered":"7 nodwedd rhedwr marathon \u2013 pa rai sy\u2019n gweddu i chi?"},"content":{"rendered":"\n<p>I\u2019r rhan fwyaf o bobl, dim ond breuddwyd yw cwblhau marathon. Mae\u2019n nod gydol oes ac i rai yn rhywbeth y mae\u2019n rhaid ei wneud mewn bywyd. Mae rhedeg am 26.2 milltir yn eich gwthio i\u2019r ffin yn gorfforol ac yn feddyliol. I ymuno \u00e2\u2019r clwb elit o redwyr marathon, mae angen i chi feddu ar set benodol o nodweddion. Pa rai sy\u2019n gweddu i chi?<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Ffocws<\/h4>\n\n<p>Dydy\u2019r rhai sydd \u00e2 ffocws clir ddim yn gadael i unrhyw beth ddod rhyngddyn nhw a\u2019u nod. Un peth yw cofrestru ar gyfer marathon, ond mae gan redwyr \u00e2 ffocws clir nodau penodol. Iddyn nhw, nid y cymryd rhan sy\u2019n bwysig.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Ysbrydoledig<\/h4>\n\n<p>Mae sawl ffurf ar ysbrydoliaeth. O Martin Luther King, meddygon a nyrsys, i redwyr marathon. Mae rhedeg marathon am resymau personol yn wych ond mae rhedeg ar ran elusen i helpu pobl eraill yn mynd yr ail filltir go iawn.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Cydnerth<\/h4>\n\n<p>Mae rhedwyr marathon yn wynebu rhwystrau bob tro bron, boed hynny\u2019n anafiadau neu salwch annisgwyl wrth hyfforddi. Mae pobl gydnerth yn bobl arbennig sy\u2019n rhedeg drwy\u2019r blisteri, poen yn y crimogau (shin splints) a phob math arall o boen. Dydyn nhw ddim yn digalonni ac maen nhw\u2019n gwneud unrhyw beth i gyrraedd y llinell derfyn.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Llawn Cymhelliant<\/h4>\n\n<p>Bydd llawer o\u2019n rhedwyr eleni wedi cofrestru er mwyn cael amser gorau neu i wireddu eu haddunedau flwyddyn newydd. I\u2019r math hwn o berson, mae\u2019r cymhelliant yn glir iddynt: cadw\u2019n heini am y flwyddyn galendr, cwblhau\u2019r marathon neu guro eu hamser gorau ar gwrs gwastad a chyflym.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Cymdeithasol<\/h4>\n\n<p>Dychmygwch yr awyrgylch mewn marathon. Rydych chi\u2019n gwybod y bydd yn ddigwyddiad arbennig ac yn un y mae llawer yn dymuno bod yn rhan ohono. Rydych chi\u2019n aml yn gweld rhedwyr marathon yn casglu ynghyd ar y llinell derfyn yn rhannu eu profiad a\u2019u straeon \u2013 rydyn ni\u2019n gobeithio gweld mwy o hynny eleni!<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Wedi Paratoi<\/h4>\n\n<p>Mae angen cynllunio a pharatoi\u2019n fanwl ar gyfer marathon. Nid yw\u2019r math o ddigwyddiad lle gallwch chi daro draw ar y diwrnod a rhedeg. Mae\u2019r rhan fwyaf o redwyr yn dilyn deiet ac amserlen redeg benodol, gan wybod y byddant yn y cyflwr gorau posib pan ddaw\u2019r ras.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4>Dewr<\/h4>\n\n<p>Efallai nad ydyn nhw\u2019n sylweddol, ond mae gan bob rhedwr marathon bersonoliaeth dewr. Mae marathon ymysg yr heriau anoddaf gall person roi cynnig arni, felly dylid dathlu\u2019r holl redwyr am eu hymdrech aruthrol.<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<p>Rhaid cael o leiaf un o\u2019r saith nodwedd uchod er mwyn croesi\u2019r llinell derfyn. Pa un sy\u2019n gweddu orau i\u2019ch personoliaeth chi?<\/p>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<h4 id=\"block-9a408d0c-3bea-4be1-a689-a140b5aee916\">Mae cwrs Marathon Casnewydd Cymru ABP ymysg y mwyaf gwastad yn y DU, gan ei wneud yn berffaith i bobl sy\u2019n rhedeg marathon am y tro cyntaf neu\u2019n gobeithio rhedeg eu hamser gorau.<\/h4>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-buttons\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/run4wales.org\/cy\/event\/marathon-casnewydd-cymru-abp\/\">Mwy o wybodaeth<\/a><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-button is-style-fill\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/run4wales.org\/training\/train-prepare\/\">Yn \u00f4l i Hyfforddiant<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>I\u2019r rhan fwyaf o bobl, dim ond breuddwyd yw cwblhau marathon. Mae\u2019n nod gydol oes ac i rai yn rhywbeth y mae\u2019n rhaid ei wneud mewn bywyd. Mae rhedeg am 26.2 milltir yn eich gwthio i\u2019r ffin yn gorfforol ac yn feddyliol. I ymuno \u00e2\u2019r clwb elit o redwyr marathon, mae angen i chi feddu<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":3633,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3850"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3850"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3850\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3854,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3850\/revisions\/3854"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3633"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3850"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3850"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.run4wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3850"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}