
Cyfleoedd Partneriaeth
Mae gennym ni brofiad o weithio gydag amrywiaeth o noddwyr a phartneriaid, o sefydliadau lleol arloesol i frandiau byd-eang. Mae gennym ni ddull gweithredu ymroddedig ar gyfer partneriaethau ac ysgogiadau, gan ddarparu cyfres o fuddion arbennig i’n partneriaid a chymorth gan reolwr cyfrif pwrpasol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ffurfio partneriaeth â R4W, cysylltwch â ni ar y manylion isod i gael mwy o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael ar draws ein portffolio o ddigwyddiadau.
Ysgogiadau
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda brandiau i greu ysgogiadau cofiadwy cyn, yn ystod ac ar ôl penwythnos y digwyddiad.

Celf ar y tywod ym Mae Whitmore yn datgelu mai ABP yw noddwr newydd 10K Ynys y Barri 
Sylw manwerthol ac i frand Adidas yn Hanner Marathon y Byd 
Digwyddiad hyfforddi Colin Jackson gydag Adidas ac Athletics for a Better World 
Seb Coe gyda rhedwyr ABW cyn Hanner Marathon y Byd 
Marcwyr milltiroedd Prifysgol Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd 
Man adfer Enervit yn VELOTHON Cymru 
Prif Weithredwr Go Compare yn rhedeg Marathon Casnewydd Cymru mewn gwisg Gio Compario 
Sylw manwerthol ac i frand HOKA One One yn Hanner Marathon Caerdydd 
Celf Lloyds Bank ar linell derfyn Hanner Marathon Caerdydd 
Mo Farah yn cwrdd â phlant ysgol a phartneriaid y digwyddiad i ddathlu ei benblwydd 
Wal tynnu lluniau’r NSPCC yn 10K Casnewydd Cymru 
Cloc Seiko ar linell derfyn Hanner Marathon y Byd 
BMW yn arwain y ffordd yn VELOTHON Cymru 
Bragdy Brains yn creu cwrw arbennig i ddathlu VELOTHON Cymru 
Cylchgrawn Women’s Health yn cefnogi 100 o ferched i redeg Hanner Marathon Caerdydd
Cyflenwi Mewn Partneriaeth
Yn ogystal â gweithio’n agos gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyflenwi rasys ein portffolio yn effeithiol, rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau i gyflenwi digwyddiadau neu wasanaethau cynghori ar draws amrywiaeth o gampau a sectorau.
Mae gennym allu clir i gyflenwi digwyddiadau byd-eang cymhleth ac uchel eu bri, a’n harbenigedd mewn nifer o feysydd gweithredol hollbwysig gan gynnwys llety, achredu, atal camddefnyddio cyffuriau, darlledu, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyllid, llywodraethu, marchnata, gweithrediadau cyfryngau, caffael, protocolau, a gwirfoddoli.