Cynaliadwyedd

Mewn oes o newid yn yr hinsawdd, disbyddu adnoddau, llygredd plastig a rhywogaethau’n diflannu’n llwyr, a hyn oll yn digwydd ar gyfradd gyflymach a chyflymach, mae’n bwysicach nag erioed cymryd camau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Mae gennym ni fodel busnes cymdeithasol gyfrifol, felly mae gan R4W ddyletswydd i gyflenwi digwyddiadau sy’n uchelgeisiol o wyrdd a chynaliadwy, ac sy’n cael effaith isel.

Mae dros 50,000 yn cymryd rhan yn ein digwyddiadau bob blwyddyn ac rydyn ni’n cydnabod ein rôl bwysig yn dylanwadu ar ymddygiad amgylcheddol ein cyfranogwyr; yn ogystal â phwysigrwydd lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd a gosod esiampl drwy leihau ein defnydd o blastig, lleihau gwastraff ac osgoi deunyddiau ac arferion busnes anghynaliadwy.

Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a gwella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus. Mae hyn yn rhan annatod o’n strategaeth busnes. Caiff ei ategu gan ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu allweddol a fydd yn dylanwadu ar ein dull o ddatblygu’r busnes ac o dyfu yn y dyfodol. Rydyn ni’n bwriadu cyrraedd y safon ISO20121 ar gyfer ein system rheoli amgylcheddol erbyn 2922.

I wireddu ein huchelgeisiau amgylcheddol, rydyn ni’n cydnabod yr angen i fod yn ddewr wrth arloesi dewisiadau newydd, cynnwys cyfranogwyr yn ein nodau, cyrraedd safonau amgylcheddol (fel ISO20121) a herio’r drefn arferol yn y diwydiant digwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol.

Hoffech chi weithio gyda ni ar ein taith cynaliadwyedd? Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Amcanion Polisi Amgylcheddol R4W

1) Rhoi’r gorau i anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi erbyn 2023, a chyfradd ailgylchu o 90% neu uwch dros y flwyddyn gyfan o fewn 5 mlynedd.
2) Lleihau’r ddibyniaeth ar blastig a deunyddiau niweidiol erbyn 2023.
3) Cyflwyno a gweithredu polisi amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu erbyn 2022.
4) Lleihau allyriadau carbon yn sylweddol erbyn 2022.
5) Cyrraedd y safon amgylcheddol ISO20121 erbyn 2022.
6) Addysgu cyfranogwyr a newid eu hymddygiad mewn cysylltiad â materion cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn ein digwyddiadau.
7) Datblygu tirwedd wleidyddol gefnogol i gynaliadwyedd yn y sector digwyddiadau ledled Cymru.
8) Gwneud swyddfa R4W yn fwy gwyrdd a sefydlu ethos cynaliadwy yn y cwmni drwyddo draw.

Camau wedi’u Cymryd drwy ein Cynllun Gweithredu Gwyrdd

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ond dyma rai o’r camau rydyn ni wedi’u cymryd hyd yma drwy ein Cynllun Gweithredu Gwyrdd.


Ras Cynaliadwyedd

Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Phrifysgol Caerdydd wrth i ni ymdrech i wella cynaliadwyedd ein digwyddiadau. Mae’r Brifysgol wedi cynnal ymchwil ar Hanner Marathon Caerdydd (gallwch chi ddarllen yr adroddiad ymchwil yma) a chynhaliodd gynhadledd cynaliadwyedd ar y cyd â R4W ym mis Rhagfyr 2019.

Roedd y gynhadledd wedi casglu ynghyd trefnwyr digwyddiadau o bob rhan o Ewrop ac yn cynnig cyfres o sgyrsiau, gweithdai a siaradwyr gwadd. Dysgodd y rhai a oedd yn bresennol fwy am yr heriau a wynebir a thrafod, mewn grwpiau, sut gall digwyddiadau gydweithio i greu dyfodol cynaliadwy.


Mae R4W yn aelod o Grŵp MSO, sy’n cynnwys trefnwyr digwyddiadau mwyaf y DU. Maen nhw’n cydweithio i wella cynaliadwyedd digwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol yn y DU.

Mae Grŵp MSO yn cynnwys Human Race, The Great Run Company, Run 4 Wales, a London Marathon Events ymysg eraill.


Phartneriaid

Rydyn ni yn gweithio gyda nifer o noddwyr a phartneriaid, gan gynnwys Brecon Carreg a Rubicon Cymru i wella cynaliadwyedd ein digwyddiadau trwy Grwpiau Hinsawdd Gweithredol. Mae’’r gwaith grŵp a’r prosiectau wedi eu llunio i leihau trawiad amgylcheddol ein digwyddiadau a hybu ailgylchu a dyfodol wyrdd.

Mae partneriaid yn medru gwneud canrannau ariannol i’r ‘Gronfa Weithred Hinsawdd’– sy’n uniongyrchol yn cefnogi prosiectau datblygu cynaliadwy gyda ffocws blaengar gwyrdd gan gynnwys plannu coed, projectau cymunedol i daclo newid hinsawdd, egni adnewyddadwy dechreuol, ymgyrch yn erbyn niweidio ein cefnforoedd ac amgylchfyd naturiol a sicrhau hawl i bobl frodorol sydd dan fygythiad difodiant.