Gweithio Yma

SWYDD WAG

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y teitl:

Gynorthwyydd Cynyrchiadau

GWEITHIO YN RUN 4 WALES

Rydyn ni’n dîm clòs sy’n ymfalchïo mewn creu profiad cwbl fythgofiadwy i ddegau o filoedd o bobl sy’n dod i’n digwyddiadau bob blwyddyn.

Mae ein gwaith yn rhoi pleser mawr i ni ac rydyn ni’n mynd ati i gyflawni ein nodau gyda lletygarwch, hiwmor a set unigryw o werthoedd.

Yn ogystal â gyrfa werth chweil, gallwn ni gynnig amrywiaeth o fuddion:

GWYLIAU

Lwfans gwyliau hael er mwyn cael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith

DIWRNODAU I FFWRDD

Rhoddir amser o’r gwaith yn gyfnewid am unrhyw waith ar y penwythnos

DIWRNODAU RHODD

3 diwrnod cyflogedig ychwanegol i ffwrdd dros wyliau’r Nadolig

GWEITHIO HYBLYG

Cyfleoedd i weithio rhan-amser ac yn hyblyg

FFÔN SYMUDOL Y CWMNI

Ffôn a galwadau/data gan y cwmni

ABSENOLDEB DI-DÂL

Dewisiadau hyblyg i rieni neu unrhyw un sy’n dymuno mynd ar wyliau bythgofiadwy

GWEITHIO GARTREF

Trefniadau gweithio hyblyg

DATBLYGU

40 awr o hyfforddiant a datblygiad ar gael i bob aelod o’r tîm

PENSIWN

Cynllun cwmni gyda lefel gyfatebol hael gan y cyflogwr

YSTYRIOL O DEULUOEDD

Tâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu uwch ar gael

GOFAL PLANT

Cynllun sy’n effeithlon o ran treth ar gyfer talebau gofal plant

BEICIO I’R GWAITH

Cynlluniau sy’n effeithlon o ran treth ar gyfer beiciau a dillad

YSTYRIOL O GYMUDO EGNÏOL

Cawodydd ar gael i’r rhai sy’n dewis rhedeg, cerdded neu feicio i’r gwaith

RHAGLEN CYMORTH I WEITHWYR

Cwnsela a chyngor annibynnol a chyfrinachol

DIWRNODAU LLES

Hanner diwrnod unwaith y mis i wneud rhywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n dda

LLES YN Y GWEITHLE

Dosbarthiadau tylino ar eich eistedd a meddwlgarwch i leddfu straen y tymor digwyddiadau

DIWRNODAU GWIRFODDOLI

Tri diwrnod y flwyddyn i roi’n ôl i’r gymuned

CLWB CYMDEITHASOL

Rydyn ni’n gweithio’n galed, felly treuliwch amser i ymlacio gyda’ch gilydd

PRAWF LLYGAID

Prawf llygaid blynyddol am ddim

GOSTYNGIADAU I TEULU A FFRINDIAU

Llefydd am ddim yn ein digwyddiadau i’ch teulu a ffrindiau

CLWB RHEDEG

Tîm rhedeg cymdeithasol pob dydd Gwener