Lles

Nid yw’n gyfrinach ymysg y gymuned rhedeg bod gwisgo eich esgidiau i fynd i redeg yn un o’r pethau gorau gall person ei wneud i wella ei iechyd meddwl.

Meddwlgarwch – Rhedeg yw’r ffordd orau o sicrhau meddwlgarwch o bosib. Mae’n rhoi rheswm da i chi fynd i’r awyr agored, i wneud ymarfer corff ac i glirio eich meddwl. Pan fyddwch yn rhedeg, eich cam nesaf yw’r unig beth ar eich meddwl.

Rheoli straen a phryder – Mae ymarfer corff yn gyffredinol yn tynnu sylw rhywun oddi ar realiti bywyd. Drwy redeg, rydych chi’n parhau i wneud amser ar gyfer rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau y tu allan i’ch bywyd gwaith.

Cymdeithasu – Mae’r gymuned rhedeg yn un groesawgar. Gallwch chi ddod o hyd i glwb rhedeg yn eich ardal leol neu gasglu grŵp o ffrindiau ynghyd i ddechrau dilyn diddordeb newydd. Unwaith rydych chi’n dechrau, does dim troi’n ôl!

Cwsg – Mae wedi’i brofi’n wyddonol bod rhedeg yn gwella eich cwsg, a hynny o ganlyniad i well iechyd meddwl fwy na thebyg. Mae’r effaith yn un gylchol, oherwydd mae gwell cwsg hefyd yn gwella ansawdd eich bywyd!


Adnoddau Eraill

Mae llu o adnoddau eraill ar gael. Rydyn ni wedi rhestru ambell un defnyddiol isod:

Rhedeg fel therapi ar gyfer iselder a gorbryder, gan Runner’s World.

Buddion meddyliol loncian a rhedeg, gan VeryWell Fit.

Gallai ymarfer corff helpu i leihau symptomau OCD, gan VeryWell Mind.

Pam dylech chi redeg pan ydych chi dan straen, gan Runner’s World.