Corfforaethol

Codi arian, morâl a phroffil eich cwmni!

Mae symudiad ac ymarfer corff yn gwella cynhyrchiant yn y gweithle, a hynny yn y swyddfa ac wrth weithio gartref, a gall cydweithio tuag at her neu nod cyffredin wella cydlyniant tîm a meithrin y gallu i arwain. Yn R4W rydyn ni’n darparu nifer o gyfleoedd i sefydliadau sy’n awyddus i fanteisio ar y buddion hyn a darparu gweithgareddau meithrin tîm, codi arian i elusen neu gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol i’w gweithwyr.

Mae pob un o’n digwyddiadau byw yn cynnwys elfen her gorfforaethol ; lle mae timau’n brwydro i fod gyflymaf yn y ras, a nod ein Her Gorfforaethol Rithiol yw casglu ynghyd timau nad ydynt yn gallu cwrdd yn ffisegol – adnodd meithrin tîm mwy a mwy pwysig yn oes y swyddfa ‘hybrid’.

Ar gyfer penwythnos ras antur sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau rheoli a rhwydweithio ar lefel uwch, beth am Her Reoli Dell Technologies, neu os oedd gennych chi rywbeth arall mewn golwg, cysylltwch â ni i drafod digwyddiad pwrpasol i’ch sefydliad.

Cliciwch isod i bori drwy ein hamrywiaeth o ddewisiadau corfforaethol, neu gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.

Pecynnau her tîm

Ydych chi yn ystyried cofrestru 5 o bobl neu fwy i mewn i ddigwyddiad R4W? Gallai’r tîm fod yn rhan o’r sialens i dimau corfforedig, cymunedol a rhyngwladol sy’n cystadlu am wobrau, wrth fanteisio ar gost mynediad gostyngedig a buddion eraill fel rhan o brofiad y digwyddiad.

GWIRFODDOLI

Ydy eich mudiad yn cynnig diwrnodau gwirfoddoli gyda thâl? I gael gwybod sut gall eich tîm gael profiad newydd, cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau lleol a gwneud gwahaniaeth, anfonwch e-bost atom nawr i drafod cyfleoedd gwirfoddoli gyda Run 4 Wales.