Hyfforddi a Pharatoi

Boed yn 5K, 10K, hanner marathon neu’r 26.2 milltir llawn, rydyn ni yma i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich her nesaf. Porwch drwy ein cynlluniau hyfforddi, ein herthyglau a’n cyngor cymhellol isod.

Cynlluniau Hyfforddi

Newydd ddechrau rhedeg, neu ddim yn siŵr ble i ddechrau wrth weithio tuag at bellter? Mae ein cynlluniau hyfforddi’n berffaith i ddechreuwyr sy’n chwilio am gyngor ar sut i strwythuro eu hymdrechion wrth weithio tuag at bellter penodol.

Cyngor Meddygol

Does dim rhaid talu i redeg, gallwch ei wneud unrhyw le ac mae’n llosgi mwy o galorïau nag unrhyw ymarfer corff prif ffrwd arall.

Gall rhedeg yn rheolaidd leihau eich risg o salwch hirdymor fel clefyd y galon, diabetes math 2 a strôc. Gall wella eich hwyliau hefyd, a’ch helpu i reoli eich pwysau.

Darllenwch y cyngor hwn ar osgoi salwch ac anafiadau a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gwthio eich hun y tu hwnt i’ch gallu. Os oes gennych chi unrhyw bryderon, ewch at eich meddyg cyn penderfynu rhedeg.

Ymunwch â Chlwb Strava R4W!

Ein Clybiau swyddogol ar Strava yw’r lle i fynd i gael newyddion, adolygiadau, awgrymiadau a chystadlaethau na chewch chi unrhyw le arall.

Gallwch chi ryngweithio â phobl eraill sy’n hyfforddi ar gyfer digwyddiad R4W, gweld tabl arweinwyr clybiau, negeseuon, a mwy.

Rhedeg Cymdeithasol a Chefnogaeth

Mae Rhedeg Cymru yn rhaglen rhedeg cymdeithasol newydd wedi’i datblygu i ‘ysbrydoli, annog a chefnogi’ pob oedolyn yng Nghymru i redeg. Does dim rhaid talu i redeg a gall pawb ei wneud! Mae pob ymdrech yn cyfrif ac nid yw’r un rhediad yn rhy fyr – mae Rhedeg Cymru yma i ddathlu unigolion a grwpiau sy’n cerdded, yn loncian ac yn rhedeg tuag at ffordd fwy gweithgar o fyw.

Felly does dim ots beth yw eich oed, eich lefel ffitrwydd, eich dyhead, eich cefndir na’ch lleoliad – gall pawb fod yn rhan o Rhedeg Cymru! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau rhedeg, mae Rhedeg Cymru yma i’ch cefnogi ar bob cam a’ch croesawu i fod yn rhan o’r gymuned rhedeg yng Nghymru.


Erthyglau Hyfforddi

Porwch drwy ein herthyglau hyfforddi isod i gael cyngor am amrywiaeth o bynciau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram, lle gallwch chi weld unrhyw erthyglau newydd rydyn ni’n eu cyhoeddi (ac ymuno â’r sgwrs!)

10 ffordd o gymell eich hun wrth hyfforddi ar gyfer marathon
Pam mai 10K yw’r pellter rhedeg perffaith o bosib
Canllaw Hyfforddi yn y Gaeaf
Pethau i’w cofio os ydych chi newydd ddechrau rhedeg
5 ffordd o amrywio eich hyfforddiant
Pam mae’r Nadolig yn gyfnod gwych i ffanatics ffitrwydd
Awgrymiadau hollbwysig pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer ras
26.2 rheswm dros redeg marathon
7 nodwedd rhedwr marathon – pa rai sy’n gweddu i chi?
Cyngor ar hyfforddi yn yr oerfel
Canllaw llawn ar hyfforddi yn yr haf
Ymgyrch #RheswmRhedeg yn ysbrydoli
Torwyr recordiau Hanner Marathon Caerdydd yn ysbrydoli
Awgrymiadau hyfforddi ar gyfer 5K gan Steve Brace, yr athletwr Olympaidd o Gymru