GWIRFODDOLI CORFFORAETHOL

DOES DIM RHAID I CHI REDEG I FOD YN RHAN O RAI O’R DIGWYDDIADAU CYFRANOGIAD TORFOL MWYAF YNG NGHYMRU!

Ydy eich mudiad yn cynnig diwrnodau gwirfoddoli gyda thâl? I gael gwybod sut gall eich tîm gael profiad newydd, cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau lleol a gwneud gwahaniaeth, anfonwch e-bost atom nawr i drafod cyfleoedd gwirfoddoli gyda Run 4 Wales.

Ers dros ddeng mlynedd, mae Run 4 Wales wedi bod yn gweithio gyda busnesau a grwpiau cymunedol lleol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau i ddarparu rhai o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous yng Nghymru. Rydyn ni’n fenter gymdeithasol nid-er-elw ac yn ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd i hyrwyddo, rheoli a chyflenwi digwyddiadau chwaraeon ar raddfa fawr. Ni allem wneud yr hyn a wnawn heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr.

Rydyn ni’n cynnig diwrnodau gwirfoddoli corfforaethol wedi’u teilwra ar eich cyfer, ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich tîm. Cysylltwch nawr i drafod eich gofynion a chael sgwrs am ba rôl wirfoddol yr hoffech ei chwarae.

Gan ddibynnu ar faint eich tîm neu’ch mudiad, gallwch gymryd yr awenau yn yr orsaf ddŵr yn Hanner Marathon Caerdydd, gan roi dŵr i 27,500 o redwyr wrth iddynt basio heibio, gofalu am ran o’r cwrs ym Marathon Casnewydd i gyfeirio ac ysgogi rhedwyr, helpu ym mhabell Gollwng Bagiau’r Rhedwyr yn un o’n rasys 10K neu fod ar y Llinell Derfynu yn rhoi medalau a chrysau-t i redwyr llawen.

Beth yw Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol?

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yw pan fydd cwmni’n ystyried sut i weithredu’n foesegol, yn gynaliadwy ac yn gyfrifol, gan ystyried ei effaith ar yr amgylchedd, y gymdeithas a’r gymuned y mae’n gweithredu ynddi. Un ffordd o feddwl am hyn yw i gwmni ystyried sut i gael effaith gadarnhaol gyffredinol ar yr amgylchedd a chymdeithas.

Yn aml yn gysylltiedig ag endidau corfforaethol mawr, mae cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol bellach yn rhywbeth y mae busnesau o bob lliw a llun yn ceisio ei ymgorffori yn eu strategaeth gyffredinol.

Gwirfoddoli Corfforaethol gyda Run 4 Wales

Yma yn Run 4 Wales rydyn ni’n cynnig rhaglenni gwirfoddoli â chefnogaeth cyflogwr sy’n diwallu anghenion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, gan greu profiad hwyliog ac ymarferol i’ch tîm tra’n gwneud cyfraniad go iawn i’ch cymuned leol. Mae gwirfoddoli corfforaethol yn gyfle gwych i’ch tîm gael mynd allan o’r swyddfa neu ddod at ei gilydd mewn amgylchedd newydd os ydynt yn gweithio gartref. Mae gwirfoddoli mewn digwyddiad Run 4 Wales yn helpu eich tîm i gael hwyl, dysgu sgiliau newydd a hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol drwy dreulio diwrnod yn yr awyr agored. Mae bod yn rhan o ras dorfol, sy’n llwyfan i filoedd o redwyr wireddu eu breuddwydion, yn brofiad cyffrous ac ysbrydoledig.

Dewiswch wirfoddoli mewn un digwyddiad, gan greu diwrnod meithrin tîm hwyliog i gael eich cefn atoch, adnewyddu cysylltiadau a mwynhau diwrnod gwerth chweil. Neu, gallwch ddewis creu perthynas hirach gyda ni a gwirfoddoli mewn nifer o’n digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Gall eich cyfraniad fod yn fawr neu’n fach, er enghraifft gallwch ddod â thîm o ddeg o bobl i gefnogi wrth y Llinell Derfyn neu hyd at 60 o bobl i gymryd yr awenau yn un o’r gorsafoedd dŵr ar hyd y llwybr.

MANTEISON GWIRFODDOLI GYDA RUN 4 WALES:

  • Rhannu profiad y gallwch fynd ag ef yn ôl i’r swyddfa
  • Darparu cysylltiad dyfnach â’ch cymuned leol
  • Creu perthnasoedd cryfach o fewn eich tîm
  • Dangos eich ymrwymiad i achosion lleol
  • Cael profiad hwyliog ac atyniadol gyda’ch gilydd y tu allan i’r swyddfa
  • Teimlo llawn cymhelliant ac yn ysbrydoledig drwy rannu’r wefr â’r rhedwyr sy’n cyflawni eu nodau
  • Gallwn gynnig darpariaeth ar eich cyfer, ni waeth beth yw maint eich grŵp 
  • Cael sedd rhes flaen yn un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf Cymru

Cliciwch yma i ddarllen erthygl am fanteision gwirfoddoli

Ers ein sefydlu yn 2012, mae Run 4 Wales wedi tyfu i fod yn un o drefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol mwyaf adnabyddus y DU. Yr hyn sy’n ein sbarduno yw dyhead i gyflenwi digwyddiadau o safon fyd-eang gydag agenda gymdeithasol gadarnhaol. Mae ein digwyddiadau’n darparu llwyfan i hybu iechyd meddwl, y byd rhedeg merched, adfywio cymunedol, amrywiaeth, gwirfoddoli, codi arian, a chynaliadwyedd amgylcheddol.  Mae ein harian dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad a phrosiectau cymunedol drwy ein sefydliad elusennol.

Bydd dewis gwirfoddoli gyda Run 4 Wales yn rhoi eich mudiad wrth galon ein gweithgareddau, gan gyfrannu at agenda gymdeithasol gadarnhaol a hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol ymysg eich tîm. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael profiad gwirfoddoli cadarnhaol a llawn hwyl, gan wneud cyfraniad gwerthfawr iawn tuag at ddiwrnod y digwyddiad gyda chefnogaeth a chyfarwyddyd gan un o’n goruchwylwyr Run 4 Wales profiadol.

YMUNWCH Â CHYMUNED EXTRA MILER– cofrestrwch ar gyfer diwrnod gwirfoddoli corfforaethol gyda R4W

Mae trefnu diwrnod gwirfoddoli corfforaethol â ni yn hawdd. Anfonwch e-bost at Tor, ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr, yn dweud ychydig mwy wrthym am eich grŵp a beth rydych chi’n gobeithio ei gael wrth wirfoddoli. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill ac yn trafod y rôl orau i’ch tîm. Ar ôl i chi lenwi taflen gofrestru, byddwn yn anfon taflen wybodaeth i wirfoddolwyr atoch sy’n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am ddiwrnod y digwyddiad. Yna, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod draw ar y diwrnod a chymryd rhan!

Edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld pa mor bwysig yw ein gwirfoddolwyr i ni.