Cyngor Meddygol A Diogelwch

Cyngor ar Iechyd

1) Dylech bob amser gynhesu’r corff cyn gwneud ymarfer corff, yn enwedig cyn rhedeg yn bell.

2) Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd.

3) Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi hydradu ac ewch â dŵr a byrbrydau gyda chi os ydych chi’n mynd allan i redeg yn bell.

4) Os oes gennych chi gyflwr meddygol neu os oes amheuaeth ynghylch eich iechyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgynghori â’ch meddyg cyn rhedeg.

5) Peidiwch byth â rhedeg os ydych chi’n sâl neu os oes haint arnoch chi ac unwaith y byddwch chi wedi gwella, dylech ddechrau hyfforddi eto’n raddol.

6) Peidiwch â rhedeg os oes gennych chi anaf, hyd yn oed os yw’n gwella, heb ymgynghori â meddyg

7)Peidiwch â gwthio eich hunain y tu hwnt i’ch ffitrwydd.  Stopiwch redeg os ydych chi’n teimlo’n sâl

8) Os byddwch chi’n cael anaf wrth redeg, peidiwch â dal ati i redeg.  Gofynnwch am gyngor meddygol

I gael rhagor o gyngor ar iechyd ewch i: www.runnersmedicalresource.com

Cyngor ar Ddiogelwch

1) SBeth am redeg gyda ffrind neu mewn grŵp? Mae grwpiau rhedeg ar gael mewn sawl ardal ac maen nhw’n gwybod am lwybrau da, diogel.

2) Os oes rhaid i chi redeg ar eich pen eich hun, dewiswch lwybr lle bydd pobl eraill o gwmpas gan amrywio pryd byddwch chi’n rhedeg

3) Pan fyddwch chi’n rhedeg yn y nos, dylech bob amser ddewis llwybr wedi’i oleuo’n dda

4) Ewch â ffôn symudol a rhywfaint o arian gyda chi rhag ofn y bydd argyfwng

5) Gwisgwch ddillad llachar/adlewyrchol er mwyn bod yn hawdd eich gweld, yn arbennig gan y traffig

6) Os ydych chi’n rhedeg ar y ffordd, gwnewch yn siŵr eich bod yn wynebu’r traffig sy’n dod i gwrdd â chi

7) Gall clustffonau dynnu eich sylw chi oddi ar eich amgylchoedd – rhowch nhw mewn un glust os ydych chi wir eisiau gwrando ar gerddoriaeth

8)Cadwch watshis a gemwaith drud allan o’r golwg a defnyddiwch boced diogel neu fag o amgylch eich canol i gadw unrhyw eitemau gwerthfawr yn ddiogel

Mae’r cyngor hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh (www.suzylamplugh.org), elusen sy’n arbenigo mewn addysg diogelwch personol.

Cyngor Diogelwch UKA i Redwyr ac Arweiniad i’r rhai sydd ddim yn Rhedeg

Mae unrhyw gamdriniaeth neu fygythiadau yn erbyn athletwyr wrth hyfforddi yn annerbyniol. Yn dilyn achosion proffil uchel o aflonyddu ar athletwyr yn hyfforddi mewn ardaloedd cyhoeddus, mae Athletau’r DU (UKA) wedi llunio dogfen sy’n anelu at gefnogi athletwyr, rhedwyr hamdden a phobl chwaraeon eraill sy’n ymarfer yn gyhoeddus. Cyhoeddwyd canllawiau i bobl nad ydynt yn rhedwyr hefyd i dynnu sylw at sut y gall rhai ymddygiadau achosi niwed neu ofid, hyd yn oed yn anfwriadol. Gweld y canllaw yma.

Cyngor ar Ddefnyddio Jels a Diodydd Egni

Os nad ydych chi wedi defnyddio’r cynhyrchion hyn ymlaen llaw wrth hyfforddi, byddem yn eich cynghori i roi cynnig arnynt cyn y digwyddiad i sicrhau bod eich corff dod i arfer â’r cynnyrch.

Yfwch ddŵr yn gall drwy gydol y ras er mwyn hydradu eich corff a pheidiwch ag yfed gormod o ddiodydd neu jels egni er mwyn osgoi unrhyw gymhlethdodau.

Run 4 Wales is not responsible for the content and advice stated here and in external sites.