Elusennau

Drwy bartneriaethau â dros 90 o elusennau, o sefydliadau cenedlaethol i achosion lleol, mae digwyddiadau R4W yn darparu llwyfan codi arian sydd wedi’i gwneud hi’n bosib codi dros £4 miliwn y flwyddyn.

Ein prif ddigwyddiad, Hanner Marathon Caerdydd, yw digwyddiad codi arian i elusennau mwyaf Cymru ac mae ymysg 10 digwyddiad codi arian drwy chwaraeon mwyaf y DU (ffynhonnell: Massive & Just Giving)

Mae ein partneriaid elusennol yn meddwl y byd i ni ac rydyn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau bod eu profiad o’r budd mwyaf posib i’r ddwy ochr. A ninnau’n sefydliad nid-er-elw ein hunain, rydyn ni’n deall elusennau a’u nodau.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o becynnau a phartneriaethau elusennol, gan gynnwys ystod o fuddion a chynigion arbennig i’ch helpu i godi cymaint o arian â phosib ar gyfer eich elusen.

Mae ein partneriaeth â JustGiving yn helpu’r rhedwyr i godi cymaint o arian â phosib i’w helusen. Caiff technoleg JustGiving ei hintegreiddio â’r llwyfan ar-lein ar gyfer cofrestru i gymryd rhan yn y ras a defnyddir adnoddau JustGiving i helpu elusennau i ganfod negeseuon allweddol, a’r adegau gorau i gymell codwyr arian i greu eu tudalennau codi arian eu hunain ac i ymgysylltu â’u noddwyr. Hefyd, mae’r amrywiaeth o adnoddau dadansoddi sydd ar gael yn galluogi’r elusennau i fonitro’r gweithgarwch codi arian cyn y digwyddiad.

I gael mwy o wybodaeth neu i ofyn am lyfryn pecyn elusen ar gyfer unrhyw un o’n digwyddiadau, cysylltwch â ni.

Byddwch yn ymuno â nifer o brif elusennau’r DU sy’n gweithio gyda ni:

Her 2.6

Fe wnaethon ni helpu i greu’r Her 2.6 ar y cyd â London Marathon Events, Human Race ac eraill, a hynny mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Cododd bron i £12 miliwn ar adeg lle roedd miloedd o ddigwyddiadau codi arian yn cael eu canslo ledled y DU, gan gael effaith aruthrol ar incwm elusennau.

Rhedeg ar ran Elusen

Os ydych chi’n rhedwr sy’n chwilio am eich her nesaf a’ch bod yn dymuno codi arian i achos da, porwch drwy ein digwyddiadau isod. Mae digon o elusennau i ddewis o’u plith ac mae gan lawer leoedd am ddim neu am bris gostyngol ar gael.