Rhaglen Athletwyr Elît

Mae ein Rhaglen Athletwyr Elît yn denu athletwyr blaenllaw o bob rhan o’r DU a thu hwnt i gystadlu.

Mae ein rasys elît yn denu athletwyr domestig a rhyngwladol blaenllaw, yn ogystal â chryn sylw yn y cyfryngau.

Mae Steve Brace, Cyfarwyddwr Rasys R4W a cyn-redwr marathon Olympaidd, wedi dylunio cyrsiau gydag amseroedd cyflym a pherfformiad athletwyr elît mewn golwg.

Rydyn ni wedi cynnal nifer o Bencampwriaethau athletau ar draws gwahanol bellteroedd a disgyblaethau gan gynnwys Pencampwriaeth 10KM Cymru, Pencampwriaeth Hanner Marathon Cymru, Pencampwriaeth Rhedeg Llwybrau Cymru, Pencampwriaeth Hanner Marathon Prydain, Pencampwriaeth Hanner Marathon y Gymanwlad, Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd, Pencampwriaeth Rhedeg Llwybrau’r Byd, a Phencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd y Byd.

Mae ambell un o’r pum athletwr cyflymaf yn byd dros bellter hanner marathon wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, gan gynnwys Edith Chelimo, sy’n dal y record byd i ferched, a redodd y pumed amser cyflymaf erioed yn y ras, 65:52. Mae athletwyr blaenllaw o Brydain ac Ewrop yn cystadlu yn Marathon Casnewydd Cymru a’n Cyfres 10K.

I gael mwy o wybodaeth am leoedd yn y rasys elît, y gwobrau ariannol a’r meini prawf ar gyfer cymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad R4W, cysylltwch ag Alex Donald, y Rheolwr Athletwyr Elît.

Cystadleuwyr o Fri

Mae Hanner Marathon Caerdydd, ein prif ddigwyddiad, wedi croesawu rhai o athletwyr elît gorau’r byd a maes cystadleuol iawn yn y ras cadair olwyn. Ymysg y cystadleuwyr o fri mae athletwyr sydd wedi ennill medalau mewn prif bencampwriaethau:

JOHN KELAI

Enillydd y Marathon yng
Ngemau’r Gymanwlad yn 2010

FLOMENIA DANIEL

Enillydd y Marathon yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014

CYBRIAN KOTUT

Enillydd Marathon Paris yn 2016

JAPHET KORIR

Pencampwr Traws Gwlad y Byd yr IAAF yn 2013

FILEX CHEMONGES

Yr un sy’n dal record genedlaethol Uganda yn y Marathon

AZMERA AREHA

Wedi rhedeg y 10fed amser cyflymaf erioed yn y Marathon ymysg merched (2:18:33)

JOSPHAT BETT

Enillydd Medal Arian yn y 10,000m yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014

WILSON CHEBET

Yr un a oedd arfer dal record Marathon Rotterdam

RECORDIAU’R CWRS

HANNER MARATHON CAERDYDD

  • Dynion – Leonard Langat, KEN, 59:30 (2019)
  • Merched – Edith Chelimo, KEN, 65:52 (2017)

HANNER MARATHON Y BYD

  • Dynion – Geoffrey Kamworor, 59:10 (2016)
  • Merched – Peres Jechirchir, 67:31 (2016)

MARATHON CASNEWYDD CYMRU

  • Dynion – Chris Bird, GBR, 02:31:34 (2019)
  • Merched – Natasha Cockram, GBR, 02:44:58 (2018)

VELOTHON CYMRU (174KM)

  • Dynion – Ian Bibby, GBR (JLT Condor) 4:09:47 (2017)

RAS BAE CAERDYDD

  • Dynion – Dewi Griffiths, GBR, 29:08 (2017)
  • Merched – Charlotte Arter, GBR, 32:49 (2019)

10K CASNEWYDD CYMRU

  • Dynion – Matt Clowes, GBR (2019) & Ieuan Thomas, GBR (2018) – 29:43
  • Merched – Charlotte Taylor-Green, GBR, 34:44 (2019)

10K PORTHCAWL

  • Dynion – Josh Griffiths, GBR, 29:55 (2019)
  • Merched – Natasha Cockram, GBR, 34:50 (2019)

10K YNYS Y BARRI

  • Dynion – Dewi Griffiths, GBR, 29:48 (2018)
  • Merched – Eleanor Davis, GBR, 34:37 (2018)