Pecynnau her timau
Mae ein heriau tîm yn digwydd ym mhob un digwyddiad 10k, hanner marathon a marathon Rhedeg Dros Gymru. Rydyn ni yn agored i dimau corfforedig, cymunedol a rhyngwladol sy’n medru cystadlu i ennill gwobrau gwahanol a chael mantais sylweddol o fynediad discowntedig, a phrofiadau eraill atyniadol.
Mae’n gyfle perffaith i weithio ac adeiladu o fewn timau ymarferol, codi arian elusennol neu weithred CCC sy’n addas i grwpiau mawr neu fach.
- Corfforedig; dewch at eich gilydd fel aelodau o’r swyddfa er mwyn cystadlu i fod y cwmni cyflymaf
- rheolwyr HR; ymroi i hapusrwydd y gweithle er mwyn creu awyrgylch tîm iachach a hapusach
- Grwpiau’r Gymuned; cysylltu gydag eich ysgolion, grwpiau ffydd, cymdeithasol neu dîm chwaraeon
- Tramor; cofrestru di-ffwdan a chystadlu gyda rhedwyr rhyngwladol eraill.
Grwpiau o bump neu fwy, yn medru cystadlu i fod y tîm cyflymaf yn y ras. Mae pob aelod o’r tîm yn cwblhau pellter yr holl ras, gyda’r pum amser cyflymaf o bob tîm ymaelododd i gyfrif. Y tîm gyda’r cyfanswm amser cyflymaf sy’n ennill!
Beth sy’n gynwysedig
- Eich lle yn y ras a mynediad i’r her tîm
- Disgownt grŵp (a £2 i arbed yn erbyn y gost mynediad cyhoeddus)
- Cyfle i hepgor taliad ymaelodi ar-lein sydd yn orfodol ar unigolion yn mynedu’r ras
- Tlws yn cael ei rhoi i’r gweithle cyflymaf (tlws corfforedig)
- Tlws yn cael ei rhoi i’r clwb/grŵp cyflymaf (tlws cymunedol)
- Tlws yn cael ei rhoi i’r tîm tramor cyflymaf (tlws rhyngwladol)
- Gwobr i’r tîm gorau sy’n codi arian elusennol (agored i bob tîm)
- Rhedwr mwyaf ysbrydoledig (wedi’i henwebu gan aelodau eraill y tîm)
- Crys-t a medal i bob rhedwr
- Mynediad i borthal tîm rheolaeth
Gwobrau her timau safon uwch (ar gael yn unig ar gyfer hanner marathon Caerdydd)
Uwchraddio eich profiad ar ddiwrnod y ras. Mwynhewch y buddion sydd wedi eu rhestru uchod, yn ogystal â:
- Cynlluniau ymarfer tîm sydd wedi eu haddasu yn bersonol
- Trwydded lletygarwch lein derfynol (bwyd a diod yn rhan o’r cynnwys)
- 2 x lle parcio am ddim yn y parc ras swyddogol a’r maes cerdded
- Medal iTab sy’n medru cael ei addasu (gyda’ch enw ac amser gorffen terfynol) i bob aelod o’r tîm
- Llun am ddim ohonoch chi yn gorffen y ras gan ein cefnogwr ffotograffiaeth swyddogol
- Mynediad i gymuned gyfyngedig Strava, i ddod at eich gilydd gyda grwpiau eraill sy’n derbyn yr her
- Disgownt ar nwyddau swyddogol y ras
*Mae ein ffotograffwyr swyddogol yn gobeithio casglu sawl delwedd o bob rhedwr o amgylch y cwrs a’r llinell derfyn. Mewn rhai achosion, dydy hyn ddim yn bosib neu dydi’r ddelwedd ddim yn glir os ydy’r rhedwr neu’r rhif bib yn aneglur. Eto, mae’n rhaid pwysleisio bod hyn yn digwydd yn anaml iawn.
Ymunwch mewn
Mae ein timau yn derbyn anfonebau am y gost o lefydd ymlaen llaw ac yn cael cod promo ar gyfer pob unigolyn i gofrestru am ddim ar ein gwefan ymaelodi ar-lein.
Am fwy o wybodaeth, llawr-lwythwch ein llyfryn pecyn her timau neu cysylltwch (e-bost hattie.jardine@run4wales.org) i sicrhau lle.
Yr her timau eithaf
Ewch i’r daflen Her Rheoli Dell Technologies i weld yr her tîm eithaf!
Mae’r ras benwythnos anturus yn digwydd dros nifer o ddiwrnodau ac yn cynnwys gweithgaredd datblygiad rheoli, siaradwr gwadd, rhwydweithio safonol a gweithgareddau ras antur fel canŵio, seiclo mynydd, rhedeg, dringo, darllen map, saethyddiaeth a phosau myddyliau.