Dod o Hyd i Glwb Rhedeg

Gall ymuno â chlwb rhedeg wella eich rhedeg a helpu i’ch cymell chi drwy gydol eich hyfforddiant.

Mae ymuno â chlwb yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, cymdeithasu a gwthio eich hun drwy redeg gydag eraill. Gall clybiau fod yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth leol – p’un a ydych chi’n edrych am eich ras nesaf, y ffisio gorau neu eisiau gwybod mwy am y llwybrau gorau yn eich ardal.

Gall llawer o glybiau gynnig cyngor ar hyfforddi i chi hefyd, neu gyfleoedd i roi cynnig ar fathau newydd o sesiynau hyfforddi.

Gall dod o hyd i’r clwb rhedeg iawn deimlo fel proses anodd, ond mae digon o adnoddau ar gael i’ch helpu chi i benderfynu. Gallech chi ymuno â chlwb athletau cyswllt neu ddewis ymuno â grŵp rhedeg cymdeithasol mwy anffurfiol.

Clybiau Strava R4W

Ein Clybiau swyddogol ar Strava yw’r lle i fynd i gael newyddion, adolygiadau, awgrymiadau a chystadlaethau na chewch chi unrhyw le arall. Gallwch chi ryngweithio â phobl eraill sy’n hyfforddi ar gyfer digwyddiad R4W, gweld tabl arweinwyr clybiau, negeseuon, a mwy.

Clwb Hanner Marathon Caerdydd | Clwb Marathon Casnewydd | Clwb R4W Rhithiol | Clwb Cyfres 10K Healthspan Wales

Athletau Cymru

Athletau Cymru yw’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer athletau yng Nghymru, Mae’n cefnogi rhwydwaith cynyddol o glybiau a’u haelodau drwy ddarparu strwythur cyswllt a chefnogi sy’n anelu at wneud yn siŵr bod cyfleoedd diogel, hygyrch a llawn hwyl i bawb gymryd rhan.

Mae dod yn aelod o glwb cyswllt yn golygu y gallwch chi gael gostyngiad wrth gofrestru ar gyfer digwyddiadau rhedeg trwyddedig. Dewch o hyd i’ch clwb athletau lleol yng Nghymru a pha ddisgyblaethau athletau a grwpiau oedran maen nhw’n darparu ar eu cyfer.

Dod o Hyd i Glwb Athletau yng Nghymru

Rhedeg Cymru

Mae Rhedeg Cymru yn rhaglen rhedeg cymdeithasol newydd wedi’i datblygu i ‘ysbrydoli, annog a chefnogi’ pob oedolyn yng Nghymru i redeg.

Does dim rhaid talu i redeg a gall pawb ei wneud! Mae pob ymdrech yn cyfrif ac nid yw’r un rhediad yn rhy fyr – mae Rhedeg Cymru yma i ddathlu unigolion a grwpiau sy’n cerdded, yn loncian ac yn rhedeg tuag at ffordd fwy gweithgar o fyw.

Mae grwpiau rhedeg cymdeithasol cofrestredig Rhedeg Cymru ledled Cymru, felly cymerwch gip i weld a oes un yn lleol i chi a allai eich cefnogi! Neu beth am ddechrau un eich hun?

Dod o Hyd i Glwb Rhedeg Cymdeithasol

Byw tu allan i gymru? Tarwch olwg ar England Athletics, Run Together, Scottish Athletics, Jog Scotland neu Athletics NI.