Gwasanaethau Cynghori

Cyflenwi Mewn Partneriaeth

Gyda phrofiad sylweddol o gyflenwi ar lwyfan y byd ar ôl cynnig yn llwyddiannus am amrywiaeth o ddigwyddiadau Pencampwriaeth, a’u cyflenwi’n llwyddiannus, mae gennym allu clir i gyflenwi digwyddiadau byd-eang cymhleth ac uchel eu bri, a’n harbenigedd mewn nifer o feysydd gweithredol hollbwysig gan gynnwys llety, achredu, atal camddefnyddio cyffuriau, darlledu, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyllid, llywodraethu, marchnata, gweithrediadau cyfryngau, caffael, protocolau, a gwirfoddoli.

Os oes gennych chi ddiddordeb gweithio mewn partneriaeth â R4W ar ddigwyddiad neu brosiect chwaraeon, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.

Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau i gyflenwi digwyddiadau neu wasanaethau cynghori ar draws amrywiaeth o gampau a sectorau.

Partner
Ras beicio ffordd gaeedig broffesiynol o safon fyd-eang, sydd wedi’i chymeradwyo gan yr UCI, yn dangos Cymru fel cartref i ddigwyddiadau beicio byd-eang mawr gyda llwybrau godidog dros 140KM, 125KM a 60KM. R4W oedd yn cyflenwi’r digwyddiad cymhleth mewn cysylltiad ag IRONMAN. Denodd 40,000 o feicwyr dros ei oes ac roedd yn cynnwys pum ardal awdurdod lleol. Roeddem wedi cyd-drefnu ymgyrch ymgysylltu â’r gymuned ac ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd gynhwysfawr i dros 200,000 o breswylwyr a busnesau – gan hybu cefnogaeth gref gan wylwyr a theimladau cadarnhaol mewn cymunedau lleol er gwaethaf y ffaith fod rhaid cau llawer o ffyrdd. Roedd R4W wedi gweithio ar draws nifer o asiantaethau i gyflenwi digwyddiad diogel o safon uchel i feicwyr, gwylwyr a chymunedau lleol, gan greu cyfleoedd i frandiau corfforaethol, noddwyr ac elusennau gymryd rhan hefyd.
Partner

Pencampwriaeth yr Iwerydd 2019

Anfonodd dros 20 o wledydd gan gynnwys Sbaen, yr Ariannin, Twrci, Brasil a Kenya dimau drosodd ar gyfer Pencampwriaeth yr Iwerydd yn 2019 – pencampwriaeth uchel ei bri a gynhaliwyd mewn pedwar o leoliadau yng Nghymru. Fe wnaethom weithio gyda Bowls Cymru i ddarparu’r llwyfan tocynnau ar-lein, y strategaeth marchnata a chyfathrebu, a rhaglen ymgysylltu gymunedol ar gyfer y digwyddiad a oedd yn para pythefnos. Roedd yn llwyddiant ysgubol gan baratoi’r ffordd i Gymru gynnig ar gyfer Pencampwriaethau Bowls y Byd yn y dyfodol.

Partner

Llwybrau Brenhinol Cymru

Cyfres o ddigwyddiadau rhedeg llwybrau a gyflenwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a wnaeth eu cynnwys yn ei Gŵyl Wanwyn boblogaidd. Roedd cyrsiau hanner marathon, 10K a 3K trawiadol yn cynnwys y dyffrynnoedd, y caeau, y llwybrau coetir a’r goedwigaeth odidog o amgylch Maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt. Cynhaliwyd y digwyddiad rhwng 2015 a 2017 ac roedd yn gartref i Bencampwriaeth Rhedeg Llwybrau Cymru a Phencampwriaeth Rhedeg Llwybrau Rhyngranbarthol Cymru.

Partner

Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd y Byd 2015

Partner

PENCAMPWRIAETH ATHLETAU EWROP Y PWYLLGOR PARALYMPAIDD RHYNGWLADOL 2014

Partner

PENCAMPWRIAETH RHEDEG LLWYBRAU’R BYD YR IAU 2013

Partner

Cystadleuaeth Ryngwladol Athletau Cymru 2012

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i gyflenwi digwyddiadau’n effeithiol.