Mynediad Anabledd a Hygyrchedd

Mynediad Anabledd a Hygyrchedd

Mae R4W yn bwriadu bod mor gynhwysol â phosib ac yn croesawu athletwyr gyda phroblemau iechyd, anabledd neu angenrheidion arbennig.

An image of a blind athlete with a guide runner at the Cardiff Bay 10K

Prosesau Mynediad

Rydyn ni yn annogi pob cyfranogwr sydd ddim yn sicr o’u lefelau ffitrwydd i gael apwyntiad iechyd gyda’r meddyg cyn ymarfer neu gystadlu. Mae cystadleuwyr cadair olwyn neu eraill gydag anabledd neu unrhyw broblemau iechyd yn cael cofrestru i’n digwyddiadau gyda’n ffurflen gofrestru safonol sydd ar gael ar ein gwefan digwyddiadau.

Defnyddwyr Cadair Olwyn (hunain- wthio)

Cewch ddynodi os ydych chi eisiau dechrau ar flaen y ras neu yn y canol ar y ffurflen gofrestru. Dydyn ni ddim yn medru addo cyd-fynd a’ch dewis oherwydd mae hyn yn dibynnu ar ffactorau iechyd a diogelwch- ond fyddwn ni fel tîm yn gwneud ein gorau. Fe fyddwn yn cysylltu gyda chi yn agosach at y digwyddiad i drafod mewn mwy o fanylder os yn angenrheidiol. Os ydych chi ddim yn hunan-wthio y gadair olwyn rydych chi angen cymryd rhan fel cefnogwr (gwelwch isod).

Defnyddwyr Cadair Olwyn (cefnogwr)

Os ydych chi yn ddefnyddiwr gadair olwyn angen galluogwr cefnogol yn ystod y ras, fe wnewn ni roi mynediad am ddim iddyn nhw. Os gwelwch yn dda cysylltwch maria.waldron@run4wales.org i holi, yn dechrau gydag enw’r digwyddiad rydych chi yn bwriadu cyfranogi ynddi. Mae’r athletwyr yn derbyn cefnogaeth angen cyrraedd oedran safonol i gyfranogi yn y digwyddiad. Rydyn ni yn medru trafod gyda chi be fydd yn fwy addas, i ddechrau ar flaen y ras neu yn y canol, yn dibynnu ar y math o gadair neu unrhyw gefnogaeth ychwanegol rydych chi angen.

Rhedwyr amhariad golwg

Os ydych chi yn athletwr yn dioddef o amhariad golwg sydd angen cefnogaeth gan redwr partner, rydyn ni yn medru cynnig lle am ddim i’r partner. Os gwelwch yn dda cysylltwch maria.waldron@run4wales.org i holi, yn dechrau gydag enw’r digwyddiad rydych chi yn bwriadu cyfranogi ynddi.

Rhedwyr awtistig

Mae rhedwyr a gwylwyr sy’n dioddef o awtistiaeth sy’n ansicr am gymryd rhan yn medru cysylltu â enquiries@run4wales.org os ydyn nhw eisiau unrhyw wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad cyn cofrestru.

Unrhyw broblemau iechyd neu anabledd eraill

Os oes gennych chi broblemau iechyd, anabledd neu broblemau addysgu ychwanegol dylen ni wybod amdano, mae yna ran o’r ffurflen cofrestru lle mae modd rhannu manylion am gymorth ychwanegol ar ddiwrnod y digwyddiad. Mae croeso mawr i chi gysylltu gyda enquiries@run4wales.org cyn cofrestru os ydych eisiau trafod mewn mwy o ddyfnder ymlaen llaw.

Athletwyr cadair olwyn elît

Llefydd am ddim ar gael i athletwyr gadair olwyn elît mewn rhai digwyddiadau lle maen nhw yn cyrraedd y meini prawf llwyddiant. Cysylltwch alex.donald@run4wales.org am fwy o wybodaeth.

Parcio Anabledd

I’r rhai sy’n cymryd rhan ac angen man parcio anabledd am ddim gallwch ofyn am hyn trwy’r ffurflen gofrestru. Fe fyddwn ni yn cysylltu gyda chi yn agosach i ddiwrnod y digwyddiad i sicrhau’r trefniadau. Lle’n bosib ac os oes angen, fedrwn ni gynnig lle yn agos i’r man dechrau/gorffen i gadw’r gadair ddyddiol os ydych yn bwriadu defnyddio cadair olwyn rasio.

Mwy O Wybodaeth

Am fwy o wybodaeth fanwl am y prosesau mynediad, cefnogaeth fedrwn ni ei gynnig, tystiolaeth gan athletwyr anabl eraill a gwybodaeth am y cwrs o’n digwyddiadau eraill sydd wedi ei baratoi, ymwelwch â’r wefan R4W isod (yn Saesneg)