Cyflenwi ar Lwyfan y Byd

MAE GENNYM HANES BALCH O GYFLENWI DIGWYDDIADAU O SAFON FYD-EANG AR DRAWS NIFER O GAMPAU.

RYDYN NI WEDI CYNNIG YN LLWYDDIANNUS AM NIFER O DDIGWYDDIADAU PENCAMPWRIAETH A’U CYFLENWI’N LLWYDDIANNUS.

Y digwyddiad athletau mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru, yn cynnwys 200 o athletwyr elît o 44 gwlad yn ogystal â miloedd o redwyr y ras dorfol – roedd cyfle iddynt redeg yn ôl troed pencampwyr.

Yn y ras i ddynion, enillodd Mo Farah fedal efydd wrth i Geoffrey Kamworor o Kenya ennill mewn 59:10. Ei gyd-wladwr Bedan Karoki enillodd y fedal arian. Cipiodd Kenya’r gwobrau i gyd yn y ras i ferched, lle wnaeth Peres Jepchirchir guro’r ffefrynnau Mary Wacera and Cynthia Limo.

Cynhaliwyd wythnos gyfan o weithgareddau ategol, gan gynnwys Mannau Dathlu i Wylwyr ar draws y ddinas ac Expo Chwaraeon Caerdydd, lle roedd aelodau o’r cyhoedd yn gallu ymgysylltu â mawrion y byd chwaraeon fel Farah, Steve Jones, Dave Bedford a Paula Radcliffe, yn ogystal ag amrywiaeth o frandiau a noddwyr byd-eang.

Roedd rhaglen Mo Inspires wedi rhoi mynediad agos at y ffefryn Farah i blant ysgol lleol a phartneriaid y digwyddiad. Cawsant gyfle i roi cacen Caerdydd 2016 iddo er mwyn dathlu ei benblwydd yn 33 oed.

Noddwyd y digwyddiad gan Brifysgol Caerdydd a helpodd i godi proffil Hanner Marathon blynyddol Caerdydd, sydd wedi tyfu’n sylweddol ac wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang.

Bellach, mae Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o’r SuperHalfs – cyfres ryngwladol newydd o rasys hanner marathon blaenllaw, gan gynnwys rasys yn Lisbon, Prague, Copenhagen, Caerdydd a Valencia.

Pum dinas hyfryd. Pum ras anhygoel. Un taith ryfeddol. Er hwyl rhedeg. Er cyffro teithio. A’r llawenydd o allu dweud ‘Dwi wedi ei wneud e!’

Mae’n rhoi cyfle unigryw i selogion rhedeg ymgymryd â’u hantur rhedeg eu hunain a chael gwobrau am eu hymdrechion, gyda buddion arbennig a gwobrau gan gynnwys e-stampiau mewn rhith-basbort a SuperMedal am gwblhau’r gyfres o fewn 36 mis.

Mae’r rasys wedi cael eu dewis ar sail eu hansawdd, eu poblogrwydd, eu lleoliad a’u hymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae gan bob un label Aur World Athletics.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.superhalfs.com.

PENCAMPWRIAETH RHEDEG LLWYBRAU’R BYD YR IAU

  • TypeRHEDEG LLWYBR
  • LocationCONWY
  • Location2013

Un o’r digwyddiadau rhedeg llwybrau enwocaf i gael eu cynnal yn y DU, gyda dros 150 o athletwyr o 20 gwlad yn dod i GYmru am ŵyl rhedeg llwybrau â naws ryngwladol iddi.

Roedd cwrs 75km anodd o lwybrau coedwig a chefn gwlad mynyddig yn wynebu’r cystadleuwyr yn Nyffryn Conwy a Choedwig Gwydyr – lleoliad godidog. Roedd y digwyddiadau agored ac iau yn cyd-redeg.

Hwn oedd y Pencampwriaeth Byd cyntaf ym myd athletau i gael ei chynnal yng Nghymru, gan baratoi’r ffordd ar gyfer digwyddiadau uchel eu proffil o safon fyd-eang yn y dyfodol.

PENCAMPWRIAETH RHEDEG MYNYDDOEDD Y BYD

  • TypeRHEDEG MYNYDD
  • LocationERYRI
  • Location2015

Roedd Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd y Byd yn ŵyl redeg yng ngogledd Cymru, a oedd yn cynnal Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd y Byd y Meistri a Phencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd y Byd, digwyddiadau i ysgolion, rasys agored a chyfres o seminarau, a hynny dros naw diwrnod. Roedd 900 o athletwyr o 28 gwlad wedi cymryd rhan yn y Pencampwriaethau a channoedd mwy yn y rasys agored. Cynhaliwyd digwyddiadau ar draws Betws-y-Coed a Llandudno.

Roedd y digwyddiad, a noddwyd gan Arriva Trains Wales, wedi denu sylw gan y cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol. Cafodd y rasys eu dangos ar Channel 4 a British Eurosport.

PENCAMPWRIAETH HANNER MARATHON Y GYMANWLAD

  • TypeHANNER MARATHON
  • LocationHANNER MARATHON CAERDYDD
  • Location2018

I gyd-fynd â’r ffaith ei bod hi’n 60 mlynedd ers i Gymru gynnal Gemau’r Ymerodraeth yng Nghaerdydd, cynhaliodd Hanner Marathon Caerdydd Bencampwriaeth Hanner Marathon gyntaf y Gymanwlad yn 2018, gan groesawu timau o bob cwr o’r byd gan gynwys Kenya, Uganda, Awstralia a Seland Newydd.

Athletwyr Awstralia ac Uganda gipiodd y rhan fwyaf o’r gwobrau. Curodd Jack Rayner o Awstralia yr athletwyr o Uganda a Kenya mewn perfformiad bythgofiadwy i ennill y ras i ddynion. Rhedodd y ras mewn 61:01, gan guro ei amser gorau’n racs.

PENCAMPWRIAETH HANNER MARATHON PRYDAIN

  • TypeHANNER MARATHON
  • LocationHANNER MARATHON CAERDYDD
  • Location2014-2015

PENCAMPWRIAETH HANNER MARATHON CYMRU

  • TypeHANNER MARATHON
  • LocationHANNER MARATHON CAERDYDD
  • LocationBLYNYDDOL

PENCAMPWRIAETH 10KM CYMRU

  • Type10K
  • LocationRAS BAE CAERDYDD
  • Location2019, 2021

Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i gyflenwi digwyddiadau neu wasanaethau cynghori ar draws amrywiaeth o gampau a sectorau.