Amdanom Ni

Mae Run 4 Wales (R4W) yn fenter gymdeithasol nid-er-elw ac ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd i hyrwyddo, rheoli a chyflenwi digwyddiadau chwaraeon ar raddfa fawr.

Ers ein sefydlu yn 2012 rydyn ni wedi tyfu i fod yn un o drefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol mwyaf adnabyddus y DU. Yr hyn sy’n ein sbarduno yw dyhead i gyflenwi digwyddiadau o safon fyd-eang gydag agenda gymdeithasol gadarnhaol. Mae ein digwyddiadau’n darparu llwyfan i hybu iechyd meddwl, y byd rhedeg merched, adfywio cymunedol, amrywiaeth, gwirfoddoli, codi arian, a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae ein harian dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad a phrosiectau cymunedol drwy ein sefydliad elusennol.

Portffolio Digwyddiadau

Mae gennym ni bortffolio o ddigwyddiadau/a> sy’n uchelgeisiol ac yn datblygu, a phrofiad o gyflenwi rasys rhedeg, beicio, a rasys antur aml-gamp.

Drwy ganolbwyntio ar gyflenwi digwyddiadau mewn lleoliadau ac ar gyrsiau hyfryd, sy’n darparu profiad sydd gyda’r gorau yn y sector, a chyfathrebiadau rheolaidd a diddorol, rydyn ni wedi denu dilynwyr hynod o ffyddlon. Mae ein digwyddiadau’n cael effaith sylweddol ar economïau lleol ac yn llwyfan i godi arian mawr ei angen i amrywiaeth o elusennau ac achosion da. Mae ein cymuned ymroddedig o ddilynwyr yn darparu cyfleoedd i frandiau a sefydliadau ryngweithio ag unigolion sy’n frwd iawn dros yr amgylchedd, hamdden, maetheg, technoleg, iechyd a lles.

Gwasanaethau Cynghori

Gyda phrofiad o gynnig yn llwyddiannus am amrywiaeth o ddigwyddiadau Pencampwriaeth Byd un-tro, a’u cyflenwi’n llwyddiannus, rydyn ni’n cynnig gwasanaethau cynghori i gyrff chwaraeon a llywodraethu gan ddefnyddio ein gallu clir i gyflenwi digwyddiadau byd-eang cymhleth ac uchel eu bri, a’n harbenigedd mewn nifer o feysydd gweithredol hollbwysig gan gynnwys llety, achredu, atal camddefnyddio cyffuriau, darlledu, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyllid, llywodraethu, marchnata, gweithrediadau cyfryngau, caffael, protocolau, a gwirfoddoli.