Cyfres 10K R4W

Rasys eiconig mewn pedwar lleoliad unigryw

Mae Cyfres 10K R4W yn gyfres gyffrous o rasys ffordd 10K mewn pedwar lleoliad unigryw yn ne Cymru, wedi’u cyflenwi gan R4W.

Mae’r gyfres yn cynnwys:

10K Casnewydd Cymru ABP (28 Ebrill 2024)
10K Bae Caerdydd Brecon Carreg (19 Mai 2024)
10K Porthcawl Ogi (7 Gorffennaf 2024)
10K CDF (1 Medi 2024)

Tocynnau aml-ddigwyddiad

Gall y rhai sydd â diddordeb cymryd rhan mewn dwy ras neu fwy yn y gyfres fanteisio ar ein tocynnau aml-ddigwyddiad.

Mae’r rhain yn rhoi lle i chi mewn dwy, dair neu bob un o bedair ras y gyfres a pho fwyaf o rasys rydych chi’n ymrwymo iddynt, y mwyaf yw’r gostyngiad.

4 digwyddiadau = disgownt 25%

3 digwyddiadau = disgownt 20%

2 digwyddiadau = disgownt 15%

Pan fyddant wedi gwerthu allan, tarwch olwg ar wefannau’r rasys i weld a oes lleoedd unigol yn dal ar gael.

*Sylwch y bydd Let’s Do This, sy’n rheoli ein llwyfan cofrestru ar-lein, yn codi ffi weinyddol na ellir ei had-dalu ar ben eich ffi gofrestru.

Eitemau i Orffenwyr

Bydd eitemau i orffenwyr, fel medalau a chrysau t, yn cael eu dylunio gyda’r gyfres mewn golwg.

Bydd set unigryw o fedalau pleth, bob un yn dangos un o dirnodau eiconig pob lleoliad, ar gael ym mhob ras – perffaith i’r rhai sy’n awyddus i herio eu hunain i gwblhau pob ras mewn un flwyddyn a chasglu cofrodd werth chweil.

Gwobrau Ariannol

Bydd athletwyr yn cael sgôr gan ddefnyddio amser cronnus eu tri pherfformiad gorau. Dyma yw’r gwobrau ariannol ar gyfer y gyfres gyfan:

2023 TBC

1af – £300

2il – £200

3ydd – £100

4ydd – £75

5ed – £50