ERTHYGLAU HYFFORDDI

Canllaw Hyfforddi yn y Gaeaf

Mae’n ddoeth meddwl ymlaen llaw o ran y gaeaf oherwydd ni fydd yr amserlen yn syml. Bydd rhai nosweithiau lle na fyddwch yn gallu gadael y tŷ – ac mae salwch ac amodau peryglus yn broblem yn ystod y gaeaf hefyd. Isod rydyn ni wedi amlinellu rhai ffyrdd o oresgyn misoedd anoddaf y flwyddyn o ran dygnwch.

Ymuno â champfa

Pan ddaw’r oerfel, mae’r gampfa’n fwy a mwy apelgar. Er na fydd peiriant rhedeg byth yn gallu efelychu llanw a thrai rhedeg ar y ffordd, mae’n ffordd o gynnal eich lefelau ffitrwydd. Nid yw’n berffaith, ond mae’n ddigon da!

Traws-hyfforddi

Nid rhedeg yw’r unig agwedd ar ffitrwydd marathon, sy’n fiwsig i glustiau rhedwyr nad yw mynd allan yn y tywyllwch yn apelio atynt o gwbl. Os yw amodau anodd yn eich atal rhag rhedeg, ewch i nofio neu ddod o hyd i feic ymarfer i orffen y sesiwn ymarfer.

Addasu

Os yw hi’n dywydd gaeafol go iawn rhyw noson, newidiwch eich diwrnod gorffwys neu newid dwysedd eich sesiwn. Ewch i redeg am lai o amser ond yn fwy dwys os oes tywydd mawr ar y gorwel. Y peth pwysig yw cadw’r momentwm.

Buddsoddi yn y dillad cywir

Mae rhedeg pan ydych chi’n oer yn ddrwg i’ch corff a’r peth olaf rydych chi am ei wneud yw datblygu salwch a pheidio â gallu gwneud unrhyw beth. Mae haenau yn hanfodol ond meddyliwch am siacedi gwrth-wynt, hetiau, menyg a sanau rhedeg.

Rhannu’r rhedeg

Yn groes i beth mae llawer yn ei gredu, nid oes rhaid cynyddu eich ffitrwydd mewn un rhediad hir. Er enghraifft, gallwch chi rannu 10 milltir dros y diwrnod. Gwnewch 5 yn y bore cyn gwaith, ac ar ôl i’r glaw basio, 5 arall yn nes ymlaen. Byddwch chi felly’n dal yn gwneud y milltiroedd marathon hollbwysig hynny.

Meddyliwch am yr hyn sydd i ddod

Efallai ei bod hi’n anodd dychmygu nawr, ond mae’r gwanwyn ar ddod. Meddyliwch am eich nod, fel llinell derfyn ras, a dychmygu’r teimlad o ryddhad, cyflawniad a llawenydd pan fyddwch yn cael eich medal.

Bod yn synhwyrol

Os ydych chi mewn unrhyw amheuaeth, peidiwch â rhedeg. Rydyn ni’n gwybod bod salwch yn fwy cyffredin, bod amodau’n anodd ac weithiau does dim awydd rhedeg arnoch yn ystod y gaeaf. Gwrandewch ar eich greddf a pheidio â’i gorwneud hi.

Croesawu’r her

Dydy rasys marathon yn y gwanwyn ddim i fod yn hawdd! Mae’r misoedd anodd o hyfforddi yn datblygu cymeriad ac, os ydych chi am iddyn nhw fod, yn llawn boddhad! Ymunwch â grŵp rhedeg cymdeithasol neu redeg gyda ffrindiau, a bydd y profiad yn fwy dymunol o lawer.

Mae cofrestru ar gyfer ras yn ffordd wych o gymell eich hun yn ystod misoedd oer a thywyll y gaeaf. Mae R4W yn cynnig nifer o ddigwyddiadau byw drwy gydol y tymor gornestau, a heriau rhithiol drwy gydol y flwyddyn.