Cwrdd â’r Tîm

Dewch i gwrdd â’r tîm sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau fel Hanner Marathon Caerdydd, Marathon Casnewydd Cymru ABP, a Chyfres 10K R4W.

Alex Donald

Rheolwr Rasys Elît

Gallu dibynnu arno am ei farn onest, ond nid am wybod ble mae ei allweddi.  

Mwyaf tebygol i: Ysgrifennu llyfr am ei fywyd.

Annabelle Mason

Rheolwr Partneriaethau

Wrth ei bodd yn trafod senarios a syniadau newydd. Hoffi nofel gyfnod dda. Rhannu penblwydd â Brenin Henry’r VIII.

Mwyaf tebygol i: Ddweud wrthych chi ei bod hi’n dod o Sir Benfro.

Bethan King

Rheolwr Rhaglen

Gwybodaeth helaeth am bopeth Disney a thalent gudd – hwla-hwpio.

Mwyaf tebygol i: Fod yn trefnu cypyrddau’r swyddfa.

Dave Vickery

Ymgynghorydd Cyllid

Dilynwr y bêl gron a ffan ‘cyfrinachol’ o ddisgo – Disco Dave i bawb.  

Mwyaf tebygol i: Gael ei ganfod mewn parti Nadolig.

Deborah Powell

Cyfarwyddwr Masnachol

Wrth ei bodd ar gŵn ac yn berchennog balch o baun.

Mwyaf tebygol i: Anfon e-byst am 3 y bore!

Gareth Ludkin

Rheolwr Cynaliadwyedd

Reidio beics, snob cerddoriaeth a chefnogwr y bobl gyffredin.

Mwyaf tebygol i: Gadwyno ei hun i goeden.

Hattie Jardine

Rheolwr Partneriaethau

Unigolyn soffistigedig sy’n gaeth i siopa sydd â gwybodaeth helaeth am bob dim sydd i wneud ag enwogion.

Mwyaf tebygol i: Yn fwyaf tebygol o: weinyddu eich priodas.

Kelsey Duffill

Cynorthwy-ydd Gweithrediadau

Mae hi wedi treulio un pen-blwydd mewn gwersyll ffoaduriaid yn Nhibet, ac mae hi wedi bod yng ngŵyl Glastonbury 7 gwaith (a mwy i ddod!)

Mwyaf tebygol i: Fe ddewch o hyd iddi yn nofio, yn syrffio neu’n padlfyrddio.

Lee Treadwell

Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu

Beiciwr, rhedwr a nofiwr – os yw’r tywydd yn deg. Yn aml yn mynd ar wyliau nad yw’n syniad neb arall o wyliau…

Mwyaf tebygol i: Ddisgyn i gysgu ar y llawr dawnsio.

Maria Waldron

Rheolwr Perthnasau Cleient

Un dda am ddatrys problemau yn y swyddfa, a snob coffi heb ymddiheuriad.

Mwyaf tebygol i: Agor gwely a brecwast yn yr Eidal

Matt Newman

Prif Weithredwr

Alumni Ysgol Millfield a Phrifysgol Abertawe (ar gyfer y rygbi’n bennaf). Dawn dweud, dechreuwr partis a ffan o Partridge heb unrhyw gywilydd.  

Mwyaf tebygol i: Ddweud ‘jôcs dad’ sâl.

Naomi Warner

Rheolwr Digwyddiadau

Caru te mintys poeth, bywyd y môr ac Iolo Williams.

Mwyaf tebygol i: Ddod o hyd i fargen go iawn i chi.

Rachel Madge

Rheolwr Digwyddiadau

Brenhines sgyrsiau codi calon. I’w gweld ar gadair yn gweddi ‘gwenwch’ yn aml, a dyna pam mai prif ffotograffydd yw ei theitl answyddogol.

Mwyaf tebygol i: Ddod â chacennau i gyfarfod.

Rebecca Marley

Rheolwr Cyllid

Balerina’r swyddfa. Ddim yn anghyfarwydd â bod ar ei thraed tan 3am yn gwylio pennod ar ôl pennod o sioeau realiti.

Mwyaf tebygol i: Fynd ar Strictly Come Dancing.

Steve Brace

Pennaeth Cyflenwi Digwyddiadau

Halen y ddaear, Wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd ddwywaith. Hoff o fisgedi custard creams a brechdanau wy ‘di ffrio a siytni mango.

Mwyaf tebygol i: Fod yn meddwl am y peth nesaf i’w wneud yn yr ardd.

Stuart Fagg

Rheolwr Marchnata

Awdur straeon athrylithgar. Wedi hitio pêl griced i ardd Paul McCartney unwaith.

Mwyaf tebygol i: Serennu yn y sioe gerdd Jesus Christ Superstar.

Tor Hands

Rheolwr Gwirfoddol

Gwnaiff deithio i bob cwr o’r byd ond mae’n gas ganddi yfed o gwpan a llun arno.

Mwyaf tebygol i: Fod yn cyfri’r dyddiau tan ei phrofiad teithio nesaf.

Vici Williams

Rheolwr Partneriaethau

Pobydd o fri sy’n cadw’r White Company mewn busnes.

Mwyaf tebygol i: Weld a yw Michael Phelps yn ddiguro go iawn!

Os yw ein gwerthoedd yn cyd-fynd â’ch rhai chi a’ch bod yn credu y byddech yn ychwanegiad da i’r tîm uchod, dewch i ddysgu mwy am weithio yma.