PENCAMPWRIAETH HANNER MARATHON Y BYD yr IAAF/Prifysgol Caerdydd

PENCAMPWRIAETH HANNER MARATHON Y BYD yr IAAF/Prifysgol Caerdydd

Y digwyddiad athletau mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru, yn cynnwys 200 o athletwyr elît o 44 gwlad yn ogystal â miloedd o redwyr y ras dorfol – roedd cyfle iddynt redeg yn ôl troed pencampwyr.

Yn y ras i ddynion, enillodd Mo Farah fedal efydd wrth i Geoffrey Kamworor o Kenya ennill mewn 59:10. Ei gyd-wladwr Bedan Karoki enillodd y fedal arian. Cipiodd Kenya’r gwobrau i gyd yn y ras i ferched, lle wnaeth Peres Jepchirchir guro’r ffefrynnau Mary Wacera and Cynthia Limo.

Cynhaliwyd wythnos gyfan o weithgareddau ategol, gan gynnwys Mannau Dathlu i Wylwyr ar draws y ddinas ac Expo Chwaraeon Caerdydd, lle roedd aelodau o’r cyhoedd yn gallu ymgysylltu â mawrion y byd chwaraeon fel Farah, Steve Jones, Dave Bedford a Paula Radcliffe, yn ogystal ag amrywiaeth o frandiau a noddwyr byd-eang.

Roedd rhaglen Mo Inspires wedi rhoi mynediad agos at y ffefryn Farah i blant ysgol lleol a phartneriaid y digwyddiad. Cawsant gyfle i roi cacen Caerdydd 2016 iddo er mwyn dathlu ei benblwydd yn 33 oed.

Noddwyd y digwyddiad gan Brifysgol Caerdydd a helpodd i godi proffil Hanner Marathon blynyddol Caerdydd, sydd wedi tyfu’n sylweddol ac wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang.