10K Ynys y Barri ABP

Ras yn erbyn cefndir o haul, môr a thywod

Crynodeb

Mae’r haul, y môr a’r tywod yn gefndir i 10K Ynys y Barri ABP – sy’n enwog am ei hawyrgylch hwyliog a’i llwybr amrywiol.

Mae’r ras, sy’n rhan o Gyfres 10K R4W, yn cael ei rhedeg ar ffyrdd sydd wedi’u cau’n gyfan gwbl ac yn cynnig llwybr gwerth chweil sy’n arddangos mannau mwyaf prydferth ger lan môr y dref, a’i thirnodau mwyaf adnabyddus.

Mae amrywiaeth o weithgareddau i blant yn cael eu cynnal ar hyd y promenâd, gan gynnwys Ras Hwyl i’r Teulu a Ras Plant Bach – gan rhoi cyfle i ddarpar athletwyr a theuluoedd ymuno yn yr hwyl.

Mae’r rasys yn dechrau ac yn gorffen ym Mae Whitmore sydd hefyd yn cynnal Pentref y Digwyddiad lle mae cerddoriaeth fyw, adloniant, stondinau a bwyd stryd blasus. Ymlaciwch ar gadair gynfas ar ôl y ras neu ewch i nofio yn y môr ar draeth baner las y Barri – does dim rhaid i chi ond bydden ni’n eich annog yn gryf i wneud!

MEWN RHIFAU

run4wales swish

Gall rhedwyr o bob oed a gallu edrych ymlaen at ddiwrnod llawn hwyl yn yr haul mewn mannau fel Bae Whitmore, Knap, Parc Romilly a Watch House Bay.

0

o redwyr cofrestredig

0%

wedi dweud bod y diwrnod yn ardderchog

0%

yn awyddus i redeg eto