Marathon Casnewydd ABP

Un o rasys marathon mwyaf gwastad Ewrop

Crynodeb

Mae Marathon Casnewydd ABP yn ffefryn cadarn ar galendr rhedeg Cymru, gydag un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn y DU.

Mae’r llwybr yn dilyn tirnodau eiconig fel Pont Gludo’r ddinas ac mae yno olygfeydd godidog o Wastadeddau Gwent – gyda bywyd gwyllt y môr a phentrefi canoloesol hyfryd.

Mae dyddiau gorau Casnewydd yn sicr o’i blaen. Mae’n ddinas llawn hanes ag awyrgylch aml-ddiwylliannol – gyda bragdai artisan a threftadaeth gerddorol gyfoethog. Mae’r rasys yn dechrau ac yn gorffen ar lan yr afon yng nghanol y ddinas, sydd wedi cael ei hadfywio.

Mae’r ras 10K a hanner hwyliog a chyflym sy’n cyd-fynd â’r marathon yn rhoi cyfle i redwyr o bob gallu gymryd rhan heb ymrwymo i’r pellter heriol o 26.2 milltir.

MEWN RHIFAU

run4wales swish

Cafodd Marathon Casnewydd Cymru ABP ei lansio yn 2018, gan fodloni’r galw o’r diwedd am farathon yng nghanol un o ddinasoedd mawr Cymru. Cafodd y llwybr ei lunio gan Steve Brace, sydd wedi cystadlu ym marathon y Gemau Olympaidd ddwywaith. Mae’r cwrs cyflym yn un o’r cyrsiau mwyaf gwastad yn Ewrop ac oherwydd hynny mae 70% o’r holl orffenwyr wedi cael amser personol gorau.

0

ar draws y marathon, hanner a’r 10k

0%

yn rhedeg am y tro cyntaf

0%

wedi rhedeg amser gorau