10K Porthcawl Ogi

Ras gyffrous mewn tref lan môr fywiog

Crynodeb

Mae 10K Porthcawl Ogi yn ras gyffrous mewn tref sy’n enwog am syrffio, chwaraeon a llwybrau cerdded arfordirol, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.

Yn fan poblogaidd yn ystod yr haf i bobl leol ac i ymwelwyr, mae Porthcawl yn enwog am ddisgleirio yng ngolau’r haul. Mae’r ras 10K yn cael ei rhedeg ar ffyrdd sydd wedi’u cau, gan basio nifer o dirnodau a mannau godidog ger y môr gan gynnwys Rest Bay, Traeth Treco, Coney Bay, canol lliwgar y dref, y Pafiliwn hanesyddol, a Goleudy eiconig Porthcawl.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill i deuluoedd a phlant ar y diwrnod hefyd – gan gynnwys Ras Hwyl i’r Teulu a fydd yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o athletwyr gymryd eu camau cyntaf yn y byd rhedeg.

MEWN RHIFAU

run4wales swish

Mae’r ras yn boblogaidd ymysg rhedwyr o bob oed a gallu. Mae’r llwybr lan môr yn llawn golygfeydd, mae’r awyrgylch yn drydanol, ac mae’r Red Arrows yn hedfan heibio!

0

o redwyr cofrestredig

0%

o redwyr clwb

0%

yn awyddus i redeg eto