ERTHYGLAU HYFFORDDI

Ymgyrch #RheswmRhedeg yn ysbrydoli

Roedd Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd 2019 yn ddiwrnod arbennig i ni yn R4W. Hwn oedd y tro cyntaf i’r mwyafrif a oedd wedi cofrestru ar gyfer ein prif ddigwyddiad fod yn ferched. I ddathlu poblogrwydd rhedeg ymysg merched, fe wnaethon ni lansio’r ymgyrch #RheswmRhedeg (#WhyWeRun) ynghyd â Phrifysgol Caerdydd, Rhedeg Cymru a chylchgrawn Women’s Health.

Roedd yr ymgyrch yn dilyn taith bersonol merched ysbrydoledig o bob gallu a oedd yn rhedeg y ras, ac yn eu hannog i rannu eu rhesymau dros redeg er mwyn i bobl glywed eu lleisiau.

Hefyd cafodd 100 o ferched a oedd yn rhedeg hanner marathon am y tro cyntaf fynediad am ddim i’r ras eiconig drwy brifddinas Cymru, yn ogystal â chael eu mentora gan Lowri Morgan, athletwr eithafol a darlledwr, Helen Jenkins, athetlwr treiathlon, a Claire Sanderson, golygydd Women’s Health.

Cefnogodd Prifysgol Caerdydd yr ymgyrch drwy gynnal ymchwil i’r rhwystrau sy’n dal yn wynebu merched sy’n dymuno rhedeg. Canfu fod merched yn gwerthfawrogi buddion rhedeg o ran eu ffitrwydd a’u hiechyd meddwl ond eu bod yn teimlo weithiau nad oes ganddynt amser i redeg, o ganlyniad i bwysau gwaith a theulu. Os oes amser rhedeg ac ymarfer corff gwerthfawr yn cael ei golli oherwydd yr ymrwymiadau hyn, efallai fod angen i gymdeithas wneud mwy i sicrhau bod amser ymarfer corff yn cael ei werthfawrogi a’i flaenoriaethu. Gallai hyn gynnwys sicrhau bod gan ferched fannau rhedeg da sy’n hygyrch ac nad ydynt yn creu rhwystr ychwanegol i redeg.

Fe wnaeth yr ymchwil ysbrydoli dyluniad y crys t eiconig i orffenwyr, sy’n cynnwys geiriau Cymraeg a Saesneg a oedd wedi codi yn ngrwpiau ffocws yr ymchwil fel rhesymau merched dros redeg.

Hanesion o’r Ymgyrch

Lansio’r Ymgyrch #RheswmRhedegd

Lansio 100 Rhedeg Cymru

#RheswmRHedeg a Bwrw Iddi gyda 100 Rhedeg Cymru

Y seren Triathlon Jenkins i redeg hanner marathon Caerdydd 5 mis ar ôl ei hail blentyn

Helen yn brwydro’n ôl yn erbyn canser y fron eilaidd

Cofio am ei mam yn ysbrydoli Christine

Taith #RheswmRhedeg yn dwysáu ar gyfer y 100 dethol

Rhaid gwerthfawrogi amser ymarfer corff merched

Trawsnewidiad 12 stôn anhygoel rhedwr hanner marathon Caerdydd

Diwrnod Cyfryngau #RheswmRhedeg yn dechrau wythnos y ras

Fideos yr Ymgyrch

Cyfweliadau â rhai o’r merched sy’n rhan o’r ymgyrch #RheswmRhedeg