10K Casnewydd ABP

Gwastad, cyflym a llawn hwyl

Crynodeb

Mae 10K Casnewydd Cymru ABP yn ychwanegu elfen gyffrous ychwanegol at Farathon Casnewydd Cymru ABP, gan roi cyfle i redwyr o bob gallu gymryd rhan yn un o benwythnosau rhedeg mwyaf Cymru – heb orfod rhedeg pellter heriol marathon.

Mae’r ras gyflym, llawn hwyl, sy’n rhan o Gyfres 10K R4W, yn pasio tirnodau eiconig, fel Pont Gludo’r ddinas a glan yr afon yng nghanol y ddinas, sydd wedi cael ei hadfywio.

Mae dyddiau gorau Casnewydd yn sicr o’i blaen. Mae’n ddinas llawn hanes ag awyrgylch aml-ddiwylliannol – gyda bragdai artisan a threftadaeth gerddorol gyfoethog

Gallwch chi ddisgwyl digwyddiad wedi’i drefnu’n arbennig o dda ynghyd â chroeso cynnes Cymreig.

MEWN RHIFAU

run4wales swish

Mae amseriad 10K Casnewydd Cymru ABP yn golygu bod modd gwylio dechrau’r marathon, rhedeg y 10K, a bod yn ôl cyn i’r rhan fwyaf o orffenwyr y marathon gyrraedd Usk Way. Mae’n llwybr gwastad a chyflym, ac mae’r adloniant ar y cwrs yn ei wneud yn llawn hwyl hefyd!

0

ar draws y marathon a’r 10k

0%

yn rhedeg am y tro cyntaf

0%

yn awyddus i redeg eto