Curo Iwan

10K rithiol yn erbyn Iwan Thomas, yr athletwr Olympaidd o Gymru a Llysgennad Healthspan

Crynodeb

Her Curo Iwan oedd y ras gyntaf yng Nghyfres Heriau Rhithiol R4W, cyfres o ddigwyddiadau rhithiol wedi’u dylunio i gymell pobl i hyfforddi a rasio yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Ysbrydoliaeth y ras 10K rithiol oedd y fenter boblogaidd #curoiwan (#ibeatiwan), lle roedd miloedd o redwyr wedi gallu brolio eu hunain drwy redeg yn erbyn Iwan Thomas, yr athletwr Olympaidd o Gymru a Llysgennad Healthspan, yn 10K Ynys y Barri yn 2018 ac yn 10K Porthcawl Healthspan yn 2019. Cafodd y ras rithiol ei chynnal drwy gydol mis Awst 2020.

Roedd y pris mynediad yn cynnwys medal i orffenwyr i gofio am y ras, cyngor hyfforddi gan Healthspan, partner R4W, a’r cyfle i redeg (o bell) gydag athletwr Olympaidd o Gymru!

Curo Iwan

Pob Fideo