Marathon Rhithiol Casnewydd Cymru

Y MARATHON MWYAF HYGYRCH ERIOED YNG NGHASNEWYDD!

Crynodeb

Er ein bod yn siomedig na allwn ni redeg gyda’n gilydd yng Nghasnewydd y gwanwyn hwn (mae’r digwyddiad wedi cael ei ohirio tan fis Hydref 2021 oherwydd y pandemig), rydyn ni’n teimlo’n gyffrous dros ben fod ras rithiol yn cael ei chynnal yn lle hynny.

Er y bydd angen i ni aros ychydig yn fwy i strydoedd y ddinas gael eu llenwi â’r awyrgylch cynhyrfus a ddaw gyda miloedd o redwyr a gwylwyr cyffrous, gallwn gyda’n gilydd, ail-greu’r hud, y cyfeillgarwch a’r llwyddiannau ysbrydoledig sy’n gysylltiedig â’r ras.

Marathon Rhithiol Casnewydd Cymru fydd y marathon mwyaf hygyrch erioed, heb unrhyw gyfyngiadau amser ar orffen y ras, sy’n golygu y gallwch ddewis rhedeg neu gerdded, a’r opsiwn i dorri’r pellter i lawr i sawl ras lai yn ystod mis Mai 2021.

Bydd mwy o bobl nag erioed yn gallu mwynhau’r marathon ac ennill eu medal eu hunain am orffen y marathon. I’r rheini sy’n awchu am y gorfoledd o gyflawni marathon yn y dyfodol, byddwch hyd yn oed yn ennill disgownt arbennig ar gyfer ras 2022.

Wrth gofrestru, gallwch ddewis a ydych chi’n bwriadu rhedeg y pellter mewn un ras neu ei rannu’n nifer o rasys llai. Bydd byrddau ar wahân ar gael i weld pwy sydd ar y blaen, felly gall y rheini sy’n dewis rhedeg neu gerdded y pellter mewn un a’r rheini sy’n ei rannu’n fwy nag un ras rhedeg neu gerdded weld sut mae eu hamser gorffen yn cymharu ag eraill sydd wedi cwblhau’r ras yn yr un ffordd.

Bydd fersiwn rithiol o’r ras Milltir i’r Teulu yn cael ei chynnal hefyd.

FFI YMGEISIO £10 – BETH MAE HYN YN EI GYNNWYS

• Mynediad i’r llwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen

• Medal i bawb sy’n gorffen Marathon Rhithiol Casnewydd Cymru ABP

• Mynediad i’r llwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen

• Gostyngiad o 20% oddi ar gost ras rithiol Clwb Rhedwyr y Cyfnod Clo (LRC) 2021

• Gostyngiad o 20% oddi ar gost lle yn ras marathon 2022

SUT MAE’N GWEITHIO

Gallwch gymryd rhan o unrhyw leoliad awyr agored, neu ar beiriant rhedeg o unrhyw leoliad ar draws y byd. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw casglu tystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi cwblhau pellter y ras fel llun o gyfarpar campfa neu sgrin-lun o draciwr ffitrwydd neu weithgarwch GPS.

Bydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 1 Mai a 31 Mai 2021. Gallwch gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’n rhaid i chi gyflwyno eich canlyniad erbyn hanner nos, 31 Mai.

Bydd ACTIVE, sy’n rheoli ein llwyfan cofrestru ar-lein, yn codi ffi fach nad oes modd ei thalu’n ôl, ar ben eich ffi i gymryd rhan yn y ras.