Ras D-Day

Y digwyddiad rhedeg mwyaf a welodd y fyddin erioed!

Crynodeb

Mae Military Remote Running (MRR) yn rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau rhithiol sy’n agored i filwyr ac i ddinasyddion ym mhob cwr o’r byd.

Mae’r digwyddiadau, sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth gan Run 4 Wales ac ABF, yr Elusen i Filwyr, yn darparu cyfres o heriau corfforol sy’n caniatáu i chi redeg, beicio neu rwyfo’n gystadleuol dros wahanol bellteroedd.

Gallwch chi gymryd rhan mewn unrhyw gampfa neu yn yr awyr agored unrhyw le yn y byd, a dewis rhwng 5K, 10K, hanner marathon neu farathon.

Mae’r ras D-Day yn cael ei rhedeg rhwng 6 a 30 Mehefin ar lwybrau rhithiol sy’n seiliedig ar yr ymgyrch yn 1944, gan gynnwys lleoliadau fel Sword Beach a Pegasus Bridge.

Military Remote Running

Pob Fideo