10K Rithiol R4W

RAS NEWYDD I GYFRES 10K HEALTHSPAN CYMRU

CRYNODEB

Mae 10K Rithiol R4W yn ras newydd gyffrous i Gyfres 10K Healthspan Cymru, sydd eisoes yn cynnwys digwyddiadau byw ym Mhorthcawl, Ynys y Barri, Bae Caerdydd a Chasnewydd.

Bydd y ras rithiol yn cael ei chynnal ym mis Mehefin 2022. Bydd yn cynnig cymhelliant yn gynnar yn y tymor i redwyr sy’n awyddus i brofi eu hunain dros bellter o 10K neu wella eu ffitrwydd.

Dim ond £10 yw pris mynediad ar gyfer y ras 10K rithiol, ac mae’n cynnwys medal unigryw i’r sawl sy’n gorffen a mynediad i’r llwyfan canlyniadau swyddogol.

FFI YMGEISIO £10 – BETH MAE HYN YN EI GYNNWYS

• Mynediad i’r llwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen

• Ar ôl y ras, bydd medal 10K Rithiol R4W yn cael ei hanfon i gartref pawb sydd yn ei gorffen

• Blaenoriaeth o ran mynediad at Docynnau Ymlaen Llaw i Sawl Digwyddiad a Thocynnau Tymor ar gyfer Cyfres 10K 2022 neu ddisgownt o 20% oddi ar gost lle mewn digwyddiad 10K unigol

SUT MAE’N GWEITHIO

Gallwch gymryd rhan o unrhyw leoliad awyr agored, neu ar beiriant rhedeg o unrhyw leoliad ar draws y byd. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw casglu tystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi cwblhau pellter y ras fel llun o gyfarpar campfa neu sgrin-lun o draciwr ffitrwydd neu weithgarwch GPS.

Bydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 1 Mehefin a 30 Mehefin 2022. Gallwch gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’n rhaid i chi gyflwyno eich canlyniad erbyn hanner nos, 30 Mehefin.

Bydd ACTIVE, sy’n rheoli ein llwyfan cofrestru ar-lein, yn codi ffi fach nad oes modd ei thalu’n ôl, ar ben eich ffi i gymryd rhan yn y ras.