Her Gorfforaethol Rithiol

Codi arian, morâl a phroffil eich cwmni!

Crynodeb

Mae pandemig COVID-19 wedi newid ein ffyrdd o weithio yn barhaol ac mae llawer o sefydliadau’n newid yn barhaol i ‘swyddfa hybrid’ – cymysgedd o weithio gartref ac yn y swyddfa.

Gan fod cydlyniant tîm a meithrin perthnasoedd yn bwysicach nag erioed, mae’n falch gennym lansio Her Gorfforaethol Rithiol R4W

Mae’r her yn gwahodd cwmnïau ar hyd a lled Cymru i gymryd rhan mewn mewn unrhyw leoliad dan do neu awyr agored.

Mae’n darparu cyfle i godi arian i elusen, i feithrin cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a meithrin tîm ar adeg pan nad oes modd cynnal digwyddiadau cyfranogiad torfol traddodiadol.

Does dim cyfyngiad ar sawl aelod tîm gall gymryd rhan ond byd angen o leiaf tri aelod arnoch chi i gofrestru. Gall aelodau tîm redeg gyda’i gilydd yn yr awyr agored, neu yn eu lleoliad eu hunain. Codwch arian, codwch ysbryd y tîm a chodi proffil eich cwmni!

Ymunwch â Sefydliadau fel:


MEWN RHIFAU

run4wales swish
0

neu fwy o redwyr fesul tîm

0%

yn teimlo’n fwy cysylltiedig

0%

yn teimlo’n fwy cadarnhaol

0%

yn teimlo cymhelliant i fynd i’r awyr agored

0%

wedi gwella eu lles

0%

o’r enillion cymryd rhan wedi’i roi i elusen


Beth sy’n gynwysedig

• Her ffitrwydd ystyrlon i gymell eich tîm drwy gydol y flwyddyn

• 20% o’r holl enillion cymryd rhan i elusen o ddewis y tîm buddugol

• Tlws a 2022 Her Forfforaethol Pecynnau i’r tîm buddugol ym mhob ras

• Mynediad at lwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen

• Rheolwr cyfrif pwrpasol i helpu i weinyddu eich tîm drwy ein llwyfan canlyniadau digidol ac anfon negeseuon atgoffa i’r rhai sy’n cymryd rhan i gofnodi eu hamseroedd gorffen.

• Gostyngiad o 10% ar Becyn Corfforaethol yn un o ddigwyddiadau byw R4W fel Hanner Marathon Caerdydd, Marathon a 10K Casnewydd Cymru, a Ras Bae Caerdydd

Sut mae’n gweithio

1) Cymerwch ran am £10 fesul aelod o’r tîm fesul ras (rhaid i’r tîm gynnwys 3 aelod o leiaf)

2) Rhedwch bellter y ras fel unigolion neu fel tîm unrhyw bryd yn ystod mis y ras

3) Cyflwynwch amseroedd gorffen unigol (gyda thystiolaeth ategol fel llun o gyfarpar campfa neu sgrin-lun o ap ffitrwydd) ar ein llwyfan canlyniadau

4) Mae tri amser cyflymaf bob tîm yn cael eu cyfuno i gynhyrchu amser y tîm

5) Mae’r tîm cyflymaf yn ennill tells yr her, 2022 pecyn Corfforaethol a rhodd i elusen o’i ddewis