Curo Steve

Ras yn erbyn Brace!

Crynodeb

Roed her Curo Steve yn rhan o Gyfres Heriau Rhithiol R4W, cyfres o ddigwyddiadau rhithiol wedi’u dylunio i gymell pobl i hyfforddi a rasio yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Roedd y ras 5K rithiol yn herio rhedwyr i rasio yn erbyn Steve Brace, rhedwr marathon Olympaidd a Chyfarwyddwr Ras Hanner Marathon Caerdydd, dros bellter y parkrun poblogaidd.

Amser 5K gorau cyn enillydd rasys marathon Paris a Berlin yw 13:59, yn 1995, ond ar ôl cael gosod clun newydd mae i’w weld mewn siaced lachar yn amlach na siorts rhedeg, yn cyfarwyddo digwyddiadau Run 4 Wales, rasys lleol a parkrun wythnosol Porthcawl. Mae wedi estyn ei esgidiau rhedeg yn arbennig i’r digwyddiad rhithiol newydd hwn.

Roedd y pris mynediad yn cynnwys medal i orffenwyr i gofio am y ras a chyngor hyfforddi gan y dyn ei hun. Cafodd y digwyddiad ei gynnal drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd 2020.