Milltir Rithiol Ir Teulu Casnewydd

BETH AM GADW’N HEINI YN YR AWYR AGORED YN YSTOD Y GWANWYN HWN!

Crynodeb

Er ein bod yn siomedig na allwn ni redeg gyda’n gilydd yng Nghasnewydd y gwanwyn hwn (mae’r digwyddiad wedi cael ei ohirio tan fis Hydref 2021 oherwydd y pandemig), rydyn ni’n teimlo’n gyffrous dros ben fod ras rithiol Milltir i’r Teulu yn cael ei chynnal. Bydd hyn yn hwb ac yn ysgogiad i blant ac oedolion gadw’n heini yn yr awyr agored y gwanwyn hwn.

Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn gallu lawrlwytho taflenni gweithgareddau, a fydd yn eu hysgogi i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i baratoi ar gyfer rhedeg milltir rywbryd yn ystod mis Mai. Gallwch redeg eich milltir ar unrhyw gwrs, o unrhyw leoliad awyr agored drwy gydol y mis.

Bydd pawb sy’n gorffen yn cael medal Milltir i’r Teulu yn y post, a bydd eu henwau’n cael eu cynnwys ar y bwrdd canlyniadau swyddogol.

FFI YMGEISIO £5 (£15 I DEULU O 4) – BETH MAE HYN YN EI GYNNWYS

• Mynediad i’r llwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen a gweld canlyniadau

• Tystysgrifau i’r bachgen/merch gyflymaf o ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n cymryd rhan

• Ar ôl y ras, bydd medal yn cael ei hanfon i gartref pawb sydd yn ei gorffen

• Tystysgrif i chi ei llwytho i lawr

• Taflenni gweithgareddau i chi eu llwytho i lawr a’u defnyddio wrth hyfforddi

• Gwobrau am yr ymdrechion gwisg ffansi gorau

SUT MAE’N GWEITHIO

Bydd angen i chi gofnodi eich amser gorffen a chasglu tystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi cwblhau’r ras (fel llun ohonoch chi’n cymryd rhan, llun o’r cwrs un filltir rydych chi wedi’i greu, neu sgrin-lun o draciwr ffitrwydd neu weithgarwch GPS).

Bydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 1 Mai a 31 Mai 2021. Gallwch gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’n rhaid i chi gyflwyno eich canlyniad erbyn hanner nos, 31 Mai.

Bydd ACTIVE, sy’n rheoli ein llwyfan cofrestru ar-lein, yn codi ffi fach nad oes modd ei thalu’n ôl, ar ben eich ffi i gymryd rhan yn y ras.